google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carchar y Berwyn: ‘Gorfodi siaradwyr Cymraeg i droi i’r Saesneg’

Dywedodd un gŵr o’r enw Ieuan wrth yr ymchwilwyr, fod staff wedi dweud wrtho am beidio â siarad Cymraeg gyda’i gyfreithiwr yn ystod cyfarfod a oedd i fod yn breifat a chyfrinachol.

“Roeddwn i ar gyswllt fideo gyda fy nghyfreithiwr ac roeddwn i’n siarad Cymraeg ag ef, a daeth y swyddog i mewn a dweud wrthyf am roi’r gorau i siarad Cymraeg, neu fel arall byddwn i’n cael fy ‘neud amdano.

“Byddwn i’n cael fy nghosbi amdano”.

Mae Dr Jones a Dr Davies hefyd yn honni bod carcharorion sy’n siarad Cymraeg wedi profi oedi sylweddol wrth yrru gohebiaeth yn y Gymraeg.

Dywedodd Hefin wrthyn nhw bod ei gyfaill, “wedi anfon llythyr [yn Saesneg], ac fe gyrhaeddodd o fewn dau, tri diwrnod. Mae fy llythyr [yn y Gymraeg] yn cymryd pythefnos, tair wythnos, ac os nad ydi o, [bydd] yn mynd ar goll.

“Roedd yn bathetig. Fe wnes i roi’r gorau i ysgrifennu llythyrau yn y diwedd gan nad oedden nhw byth yn derbyn rhai ohonyn nhw”.


BBC News

Advertisements

See also  Scotland's papers: Grangemouth investment and housebuilding slump

Check Also

Boy wins award after steering car to safety when mum collapsed

A mother whose life was saved by her son’s quick thinking after she collapsed at …

Dyn, 61, wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw, 47, ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae dyn 61 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio menyw 47 oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr. …

Aeron Pughe a’r ŵyl sy’n dathlu canu gwlad ym Machynlleth

Dywed Aeron bod pobl efallai’n cael y syniad anghywir o ganu gwlad, ac bod eu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime