google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carchar am oes i ddyn 34 oed o Sir Benfro am dreisio babi

Dywedodd Caroline Rees KC ar ran yr erlyniad fod anafiadau’r babi yn “gatastroffig” a’i fod wedi derbyn morffin – rhywbeth sy’n anarferol iawn mewn achosion yn ymwneud â babi.

Clywodd y llys fod y babi rhwng saith ac wyth wythnos oed pan gafodd ei anafu, a bod Phillips dan ddylanwad sawl sylwedd ar y pryd.

Roedd anafiadau’r babi yn cynnwys gwaedu ar yr ymennydd ac asennau wedi torri.

Dywedodd nain y plentyn mewn datganiad dioddefwr fod yr achos “wedi dod ag arswyd a dinistr i fywydau’r teulu”.

“Dyma’r math o beth rydych chi’n ei glywed ar y newyddion ac mae’n ddigon i droi eich stumog… hunllef fwyaf unrhyw riant yw darganfod bod eich babi wedi cael ei ymosod arno’n rhywiol – mae’n erchyll.”

Clywodd y llys ddatganiad gan dad y plentyn a ddywedodd fod clywed am yr anafiadau wedi “ei chwalu yn llwyr” a bod Phillips – rhywun yr oedd o erioed wedi ei gyfarfod – wedi ceisio rhoi’r bai arno fo.


BBC News

Advertisements

See also  Shabana Mahmood: The abuse I receive is outweighed by kindness

Check Also

Matt Tebbutt: Bwyd cysur a chynhwysion Cymreig

Yn ei fenter ddiweddara’ mae Matt wedi sgrifennu llyfr, Legacy Kitchen, sy’n edrych ar sut …

Newport Bus ‘crisis’ as financial problems delay accounts

Earlier this month, Companies House began action to strike it off the register of trading …

World Grand Prix: Gerwyn Price and Jonny Clayton to meet in last eight

Former champions Gerwyn Price and Jonny Clayton have set up an all-Welsh World Grand Prix …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime