google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cannoedd yn protestio dros ddyfodol canolfan ymwelwyr Coed y Brenin

Ychwanegodd Mr ap Gwynfor: “Mae nhw (CNC) yn edrych i wneud arbedion o thua £1.2m efo cau y ganolfan yma, Nant yr Arian ac Ynyslas hefyd.

“Mae’r tri chanolfan yma efo’i gilydd yn dod â ryw £60m i economi canolbarth Cymru, felly mi fyddai cau’r canolfannau hynny yn niweidiol i’r economi a felly’n gam ffôl.

Mewn ymateb, dywedodd Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol, Strategaeth a Datblygu Corfforaethol CNC : “Rydym yn edrych ar draws ein holl gylch gwaith ac yn adolygu’n feirniadol yr hyn y gallwn ac y mae’n rhaid i ni barhau i’w wneud, yr hyn yr ydym yn ei stopio, a’r hyn yr ydym yn ei arafu neu’n ei wneud yn wahanol i gyflawni uchelgeisiau ein Cynllun Corfforaethol.

“Un elfen a gafodd ei chynnwys mewn cynigion i staff yw nad ydym bellach yn gweithredu darpariaeth arlwyo a manwerthu mewn canolfannau ymwelwyr, ond bod y safleoedd eu hunain yn parhau ar agor ar gyfer cerdded a beicio, yn ogystal â mannau chwarae, meysydd parcio a thoiledau.

“Nawr rydym yn adolygu’r wybodaeth a dderbyniwyd gan undebau llafur yn dilyn yr ymgynghoriad i ddeall yn llawn effeithiau’r penderfyniadau ar gyfer ein cydweithwyr, ein partneriaid, ein rhanddeiliaid a’n cwsmeriaid i benderfynu a oes angen unrhyw newidiadau, tra’n parhau i gyrraedd yr arbedion ariannol angenrheidiol.

Unwaith y bydd y penderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud, byddwn yn gallu gweithio gyda phartneriaid i chwilio am atebion yn y dyfodol a mynd ati i chwilio am bartneriaid i gynnal y gwasanaethau hyn.”


Source link

See also  Wales considering U23s team to 'bridge significant gap' to senior football

Check Also

Pam bod penglog ar grys rygbi newydd Caerdydd?

Mae hi’n dymor arbennig i Rygbi Caerdydd eleni wrth i’r clwb ddathlu 150 mlynedd. Er …

Councils ask not to be left out of new powers for Wales

Welsh councils should not be “left behind” when it comes to further devolution, Wales’ most …

Resolven mum’s plea to find missing son Robert Williams ahead of 40th birthday

The mother of a teenager who was last seen at a house party when he …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime