google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cannoedd yn gorymdeithio trwy Fachynlleth dros Ddeddf Eiddo

Daeth dros 300 o bobl ynghyd mewn rali ym Machynlleth brynhawn Sadwrn i alw ar y llywodraeth i ymateb i’r argyfwng tai yng Nghymru a sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg.

Cafodd y rali ei chynnal ddeuddydd cyn Diwrnod Owain Glyndŵr, sy’n nodi 624 mlynedd ers ei goroni yn dywysog Cymru.

Roedd Bethan Roberts, sy’n dod o Fachynlleth, yn rhan o’r trefniadau ar gyfer y rali.

Dywedodd: “Dwi’n teimlo’n gryf dros y syniad bod tai yn gartrefi ac nid llefydd gwyliau yn unig neu llefydd i wneud arian.

“Mae’n glir bod ‘na argyfwng tai mewn cymunedau ar y môr fel Aberdyfi neu Abersoch ond mae ‘na broblem yma ym Machynlleth hefyd. Felly mae’n bwysig cyfathrebu hynny a dangos bod angen newid.”

Ychwanegodd: “Mae’n wych gallu gwneud hynny mor agos i ddiwrnod Glyndŵr hefyd.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gyson eu bod yn “cymryd camau radical” ar gyfer y “set gymhleth o faterion” a’u bod yn ymgynghori ar Bapur Gwyn yn ddiweddarach eleni ar gynigion ar gyfer darparu tai digonol, rhenti tecach, a dulliau newydd o wneud cartrefi’n fforddiadwy i’r rhai ar incwm lleol.


Source link

Views: 0

See also  Llantrisant: Women join historic freemen ceremony for first time

Check Also

Llandrillo: Teyrnged i ddyn ‘gofalus a hoffus’ ar ôl gwrthdrawiad beic cwad

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu eu bod yn drist iawn yn dilyn ei farwolaeth “erchyll …

Leigh Halfpenny i ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor

“Bydd hi wastad yn anodd gadael gêm sydd wedi bod yn rhan o fy mywyd …

Leigh Halfpenny i ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor

“Bydd hi wastad yn anodd gadael gêm sydd wedi bod yn rhan o fy mywyd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.