google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Canfod corff bachgen yn ei arddegau ger Castell y Waun

Advertisements

Mae corff bachgen 17 oed wedi’i ddarganfod ger Castell Y Waun wedi iddo fynd ar goll yn yr ardal.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd mai’r gred oedd iddo fynd i ddŵr o fewn tiroedd y castell brynhawn Mawrth, ac nad oedd wedi’i weld ers hynny.

Cafodd corff y bachgen ei ddarganfod ar ôl i dimau arbenigol chwilio mewn llyn ger y castell.

Nid yw’r farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus ac mae’r crwner wedi cael gwybod, meddai’r llu.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Sian Beck bod yr heddlu yn meddwl am ei deulu ac anwyliaid, a’u bod yn derbyn cefnogaeth.

Ychwanegodd nad yw’r corff wedi cael ei hadnabod yn swyddogol ond mae teulu’r bachgen wedi cael gwybod.


BBC News

Views: 2

See also  Head teacher abused girl all the time, court told

Check Also

Martyn Margetson to leave role as Swansea City’s head of goalkeeping

Martyn Margetson is to leave his role as Swansea City’s head of goalkeeping at the …

Now not the time for change from Labour, says Eluned Morgan as party trails in polls

Wales’ first minister argued voters should stick with her party during a time of global …

Y trafodaethau rhwng Caerdydd a pherchnogion y Gweilch wedi dymchwel

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn dweud na fydd perchnogion y Gweilch nawr yn prynu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime