google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Caerdydd yn cwympo o’r Bencampwriaeth

131a7730 22b2 11f0 84cd 01d92cff14af.jpg

Mae Caerdydd wedi cael eu diarddel o’r Bencampwriaeth ar ôl gêm di-sgôr yn erbyn West Bromwich Albion dydd Sadwrn.

Wrth fynd i mewn i’r penwythnos, roedd angen buddugoliaeth a thipyn o lwc ar yr Adar Gleision i osgoi cwympo o’r gynghrair.

Ond roedd y gêm gyfartal a buddugoliaeth Luton Town yn ddigon i sicrhau y bydd tîm Aaron Ramsey yn cystadlu yn Adran Un y tymor nesaf.

Mae’n newid byd i glwb y brifddinas, oedd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair yn 2018, ond sydd wedi profi sawl tymor anodd ers hynny.

Dim ond naw gêm y mae Caerdydd wedi eu hennill y tymor yma, y nifer isaf yn y Bencampwriaeth.

Fe gafodd cyn-reolwr Caerdydd, Omer Riza, ei ddiswyddo ar 19 Ebrill, ac Aaron Ramsey fydd wrth y llyw ar gyfer y gemau olaf.

Ramsey yw’r 16eg rheolwr yn ystod 15 mlynedd Vincent Tan yn berchennog ar y clwb, ac roedd y protestio yn ei erbyn y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd yr wythnos diwethaf yn arwydd clir o deimladau rhai cefnogwyr.

Ar y pegwn arall, mae Wrecsam yn gobeithio creu hanes drwy ennill dyrchafiad am dri thymor yn olynol wrth esgyn i’r Bencampwriaeth o Adran Un.

Mi fydd Caerdydd yn chwarae nesaf yn erbyn Norwich ar ddydd Sadwrn, 3 Mai – eu gêm olaf o’r tymor.


BBC News

Advertisements

See also  Welsh government expresses major concerns over benefit cuts

Check Also

WRU outlines reason for cutting one of the west Wales regions

While the decision on where the three licences would be awarded was officially announced in …

Cân Edward H yn ymddangos yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda’r gân …

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime