google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bryn Terfel: Cael brechdan yn y Tŷ Gwyn gyda Clint Eastwood

Dwi’n cofio canu unwaith yn y Tŷ Gwyn yn Washington DC, yn y Kennedy Center Awards.

‘Nes i dri ohonyn nhw; i Elizabeth Taylor, i James Levine yr arweinydd, ac unwaith i Jack Lemmon, yr actor, lle ‘nes i ganu You’ll Never Walk Alone o Carousel – cân sy’n cael ei chysylltu efo Lerpwl wrth gwrs, ond cân gan Rogers and Hammerstein ydi hi ‘de!

Cyn y cyngerdd, mynd i’r Tŷ Gwyn am de a brechdan.

Wastad pan o’n i’n ifanc, o’n i’n gwylio Westerns efo Dad, ac o’dd Clint Eastwood yn bwysig yn tŷ ni. ‘Nes i gerdded i mewn i’r stafell ‘ma, a’r person cynta’ ‘nes i rwbio ‘sgwyddau efo fo oedd Clint Eastwood!

O’n i’n syfrdan, ac o fewn eiliadau, o’dd y cyfle ‘di mynd… Wrth gwrs, doedd o ddim ‘di nghlywed i’n perfformio, doedd o ddim yn gwybod pwy o’n i!

Wedyn, ddaeth y noson lle o’n i’n canu i Mr Lemmon. A wedyn ddaeth yr actorion ‘ma i gyd i gefn llwyfan, ac mi ddaeth yr hen Clint yn ôl at Bryn a d’eud “I enjoyed your performance“, a ges i ddeud “mae nhad i wrth ei fodd efo’ch gwaith chi, a ‘da chi’n gerddor arbennig” achos mae o’n cyfansoddi cerddoriaeth i’w ffilms.

‘Swn i’n licio ‘sa nhad wedi bod yna i’w gyfarfod o.


BBC News

Advertisements

See also  'Perchennog Airbnb wedi ein gwrthod am ein bod yn Gymry'

Check Also

WRU outlines reason for cutting one of the west Wales regions

While the decision on where the three licences would be awarded was officially announced in …

Cân Edward H yn ymddangos yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda’r gân …

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime