google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Braint achub capel gwledig yng Ngheredigion’

Cafodd capel Ebeneser ei adeiladu’n wreiddiol ar ddechrau’r 19g a’i ehangu yn ddiweddarach y ganrif honno ac mae’n debyg mai dyma’r capel Methodistaidd Wesleaidd cyntaf yng Ngheredigion.

Cafodd ei adeiladu yn bennaf gan fwynwyr plwm o Gernyw oedd wedi dod i’r ardal i weithio.

“Un o’m hatgofion cyntaf erioed yw eistedd y tu allan i Glantuen – mans cylchdaith Ystumtuen ym mynyddoedd y Pumlumon,” ychwanegodd Geraint Roberts, mab y diweddar Barchedig Cifford Roberts.

“Ychydig cyn i ni symud roedd yr ysgol leol newydd gau ac wedi cael ei haddasu’n hostel ieuenctid ac roedd yna dipyn o bobl ifanc yn ymweld â’r ardal.

“Roedd gweinidog Wesle yn gorfod symud yn gyson a chyfnod byr o ryw dair blynedd fuom i yno ond oedd e’n gyfnod sobor o hapus.

“Roedd yna deimlad o agosatrwydd yn perthyn i’r lle – cymdeithas glòs ddiwylliedig yn llawn cyfarfodydd cymdeithasol, dramâu ac eisteddfodau a dwi mor falch bod fy nghyfeillgarwch i â’r ardal yn parhau dros 60 mlynedd yn ddiweddarach.”


Source link

See also  Oriel: Harddwch Eryri wrth i'r Parc Cenedlaethol ddathlu'r 75

Check Also

County Championship: Hampshire thwarted by rain in draw against Glamorgan

Resuming on the fourth morning at 124-2, Albert and Jake Lehmann played conservatively for 40 …

Mountain Bike World Championships: Tom Pidcock dedicates second title to Fin Tarling

Great Britain’s Tom Pidcock paid an emotional tribute to Fin Tarling after winning his second …

Is Swansea City’s attacking transfer business already paying off?

Improvements in the wide areas topped Swansea City supporters’ target list as the club entered …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime