google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 22 2026

Blwyddyn ‘anodd iawn’ i Noel Thomas wedi diagnosis o ganser

“Mae ‘di bod yn flwyddyn anodd iawn 2025, ond diolch i’r nefoedd dwi’n dal i fod yma,” meddai Mr Thomas.

“Nes i ‘rioed feddwl – o’n i ‘di clywad llawar yn dweud bod gynno nhw gansar ond neshi ‘rioed feddwl ‘swn i’n gal o.”

Yn dilyn blynyddoedd o frwydro i glirio ei enw roedd y daith annisgwyl hon yn heriol meddai ac “odd o yn driniaeth galad”.

“‘It’s not a sprint it’s a marathon Noel‘” meddai doctor wrtho “a mae o ‘di deud y gwir hefyd”.

Daeth y diagnosis o ganser yn fuan iawn ar ôl y setliad ariannol ond nid dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fel teulu orfod wynebu newyddion o’r fath.

Bu farw mab Mr Thomas o ganser adeg Covid ac yntau ond yn 50 oed.

“‘Da chi’m yn disgwyl i’ch plentyn fynd o’ch blaen chi nadach?” meddai.

Wrth fyfyrio fe bwysleisiodd “ma’ pres ‘di bod yn help ond ma’ iechyd yn fwy o werth”.

“Sgynnoch chi ddim byd heb iechyd a diolch i’r nefoedd dwi ‘di cal iechyd a deud y gwir”.


BBC News

Advertisements

See also  MI Cape Town v Sunrisers Eastern Cape - Cricket

Check Also

From punk to politics – the making of new Reform Wales leader Helen Jenner

Born in Neath, where her mother is from, Jenner moved to Anglesey aged two where …

Cymro 21 oed yn ennill Ironman 70.3 yn yr Eidal – yn ei ras hir gyntaf erioed

Cyn symud i’r pellter hirach, roedd Deri wedi cystadlu mewn rasys triathlon byrrach, gan gynnwys …

Glamorgan Cricket: Colin Ingram to retire for coaching role

The hard-hitting left-hand batter arrived at Sophia Gardens in 2015, quickly becoming a leading part …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime