google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Biliau ynni i gynyddu’n fwy na’r disgwyl fis Ebrill

Advertisements

Mae’r cap ar brisiau ynni wedi codi am y trydydd tro yn olynol – 6.4% o gynnydd o 1 Ebrill.

Mae’r cynnydd yn uwch na’r hyn oedd yn cael ei ddisgwyl, a bydd yn rhoi mwy o bwysau ariannol ar bobl.

Mae’r newid yn golygu y bydd cartrefi sy’n defnyddio swm arferol o nwy a thrydan yn gweld eu bil blynyddol yn codi £111 y flwyddyn – neu £9.25 y mis – gyda’r bil blynyddol yn codi i £1,849.

Mae’r cap, sy’n rhoi terfyn ar faint mae modd i’r cyflenwyr godi am bob uned o drydan, yn effeithio ar filiau 22 miliwn o gartrefi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Mae’r cynnydd yn fwy na’r disgwyl, gyda dadansoddwyr wedi rhagweld y byddai 5% o gynnydd, cyn y cyhoeddiad ddydd Mawrth.

Dywedodd y rheoleiddiwr Ofgem mai chwyddiant sydd y tu ôl i’r cynnydd diweddaraf, yn ogystal â chostau cyfanwerthu.


BBC News

Views: 0

See also  Will a heatwave hit this week?

Check Also

Llandrillo: Teyrnged i ddyn ‘gofalus a hoffus’ ar ôl gwrthdrawiad beic cwad

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu eu bod yn drist iawn yn dilyn ei farwolaeth “erchyll …

Leigh Halfpenny i ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor

“Bydd hi wastad yn anodd gadael gêm sydd wedi bod yn rhan o fy mywyd …

Leigh Halfpenny i ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor

“Bydd hi wastad yn anodd gadael gêm sydd wedi bod yn rhan o fy mywyd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.