google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Beth fydd yn digwydd i Gapel Aberfan?

Cafodd Gaynor Madgwick ei hanafu’n ddifrifol yn nhrychineb Aberfan ac fe gafodd ei brawd, Carl, oedd yn saith, a’i chwaer, Marilyn, 10, eu lladd.

Roedd hi’n wyth oed ac yn un o’r 240 o blant oedd yn Ysgol Pantglas adeg y drychineb.

“Fe wnaeth fy rhieni roi’r gorau i gredu mewn Duw dros nos.

“Roedd pobl yn gofyn ‘Pam fod Duw wedi gadael i hyn ddigwydd’?”

Dydi Gaynor ddim yn gwybod os cafodd ei brawd a’i chwaer eu cludo i Gapel Bethania neu Aberfan, ond mae’n dweud bod Capel Aberfan wedi parhau i fod yn bwysig i’r gymuned.

“Allwch chi weld pam, pan gafodd yr adeilad yma ei ddifrodi, roedd y gymuned yn ofnadwy o drist.”

Mae Gaynor yn dweud bod yr adeilad yn edrych yn ofnadwy erbyn hyn ac mi hoffai hi ei weld yn cael ei ailadeiladu a’i droi’n ganolfan hanesyddol.


Source link

See also  Riots: Swansea Muslims 'feel unsafe' amid surge in violence

Check Also

Cyflwr rhai o adeiladau campws prifysgol yn Llanbed yn ‘dorcalonnus’

Wrth ddisgrifio’r pafiliwn criced yn benodol, dywedodd ei fod yn “cael ei dorri mewn iddo, …

Sut y datblygodd stori’r wythnos ‘heriol’ i Reform yng Nghymru

“Ar ôl siarad gyda fy nheulu… fydda i ddim yn sefyll,” meddai, er bod “mwyafrif” …

‘Ofnadwy o falch i fod y Cymro ieuengaf i nofio’r Sianel’

Yn ogystal â phrofi iddo’i hun ei fod yn gallu cwblhau’r gamp, roedd codi arian …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime