google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 5 2026

Beth ddylai gwleidyddion ei wneud am gostau byw?

Yn eu maniffesto, mae’r Ceidwadwyr yn dweud na fyddai’n rhaid i bobl sy’n hunan-gyflogedig dalu yswiriant gwladol pe baen nhw aros mewn grym. Bydden nhw hefyd yn rhoi mwy o arian i bensiynwyr a helpu pobl i brynu eu tŷ cyntaf.

Mae Llafur yn dweud mai nhw yw’r blaid fydd yn creu cyfoeth drwy leihau biliau, codi cyflogau a chodi trethi’r cyfoethog er mwyn ariannu’r sector cyhoeddus.

Yn ôl Plaid Cymru, byddan nhw’n helpu dros 300,000 o deuluoedd yng Nghymru trwy gynyddu budd-dal plant £20 yr wythnos.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo gostwng biliau ynni drwy sicrhau bod cartrefi yn cael eu hinswleiddio a chyflwyno strategaeth fwyd i fynd i’r afael â chostau bwyd.

Mae’r blaid Reform yn dweud na fydd yn rhaid i bobl dalu treth incwm tan eu bod nhw’n ennill £20,000 y flwyddyn ac mi fydden nhw hefyd yn cael gwared ar Dreth ar Werth ar filiau ynni.

Byddai’r Blaid Werdd yn cyflwyno treth ychwanegol ar y mwyaf cyfoethog a dod â’r rheilffyrdd, dŵr ac ynni o dan reolaeth y llywodraeth.




Source link

Advertisements

See also  Lucy Letby expert refutes he 'changed his mind' about deaths

Check Also

‘Byddwn yn cofio nhw i gyd’ – Diffoddwyr tân yn yr UDA 25 mlynedd ers 9/11

Bron i chwarter canrif ers ymosodiadau terfysgol 9/11 ar yr Unol Daleithiau, mae Cymro yn …

Cwis Canu Gwlad – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

Cwis Canu Gwlad – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime