google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Athro’n rhedeg Marathon Llundain i gefnogi ei ddisgyblion

7c4ea0e0 1b65 11f0 b405 a9063c038ff6.jpg

Nid Ceri yw’r unig athro yn Ysgol Gyfun Rhydywaun sy’n cadw’n heini. Mae’r brifathrawes, Miss Lisa Williams, eisoes wedi rhedeg Marathon Llundain ddwywaith a’r pennaeth cynorthwyol newydd gwblhau Marathon Paris.

Gobaith Ceri yw bod aelodau heini o staff yn ysbrydoli’r disgyblion i fyw bywyd iach ac i ffeindio gweithgaredd maen nhw’n ei fwynhau:

“Dwi wastad yn siarad gyda’r plant yn yr ysgol am ffeindio rywbeth sy’n helpu nhw i ymdopi gyda’r heriau o fod yn ddisgyblion. Mae’n gallu bod yn anodd bod yn berson ifanc felly mae strategaethau ymdopi’n bwysig. Faswn i’n dwlu gweld disgyblion yn dechrau rhedeg ar ôl gweld beth i fi’n ‘neud.

“Gobeithio ein bod ni fel staff yn uwcholeuo’r ffaith bod cadw’n ffit yn bwysig yn feddyliol ac yn gorfforol. Bues i’n trafod gyda rhai myfyrwyr y chweched sydd ar fin cwblhau eu arholiadau olaf a sydd dan lot o bwysau am fuddion ffeindio rhywbeth sy’n rhoi hunaniaeth i’ch hunan – gall e fod yn wrando ar gerddoriaeth i wâc efo’r ci neu redeg.”

Ac mae Ceri’n teimlo’n falch iawn o ddisgybl ym mlwyddyn 7, Betty Lancaster, sydd wedi ei dewis i gynrychioli Cymru yn y Mini London Marathon ar 26 Ebrill.

“Rydyn ni gyd yn falch iawn o lwyddiant Betty a bydd ei theulu hi’n dod lan felly bydd digon o gefnogaeth o Rhydywaun yn Llundain dros y penwythnos.

“Mae staff yr ysgol yn gobeithio fy ngweld i ar y teledu… gawn ni weld os wnawn nhw fy spotio i allan o 50 mil!”


BBC News

Advertisements

See also  Celtic Challenge: Fixtures announced for revamperd tournament

Check Also

World Grand Prix: Gerwyn Price and Jonny Clayton to meet in last eight

Former champions Gerwyn Price and Jonny Clayton have set up an all-Welsh World Grand Prix …

‘Ail-fyw blynyddoedd o ofn’ oherwydd cynllun rhyddhau carcharorion

Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Alex Norris, yn dweud bod y llywodraeth yn deall y pryder y …

‘Roedd dal y clefyd crafu yn yr ysbyty yn gysgod dros farwolaeth fy ngŵr’

Fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod rhai triniaethau wedi gorfod cael eu canslo oherwydd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime