google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Atgofion athrawes Aberfan: ‘Cofio clywed y sŵn ofnadwy’

Advertisements

Yn ystod y diwrnodau yn syth ar ôl y trychineb, gyda’r pentref dan reolaeth yr heddlu a’r gwasanaethau brys, aeth y tair athrawes yn ôl ac ymlaen i Aberfan.

Doedd neb wedi cynnig cwnsela neu gymorth ffurfiol i’r rhai wnaeth oroesi. I’r gwrthwyneb, roedd galw ar yr athrawon i berfformio’r dasg anodd a thrasig.

Yn yr iard, o dan cwt bach oedd yn cadw plant rhag y glaw, cafodd y cyrff cyntaf a gafodd eu tynnu o’r ysgol eu gosod.

“Gofynnon nhw i ni adnabod y plant cyn eu glanhau nhw er mwyn i’r rhieni eu gweld.

“Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn delio â hynny,” meddai Mair.

“Rwy’n cofio un ferch fach, dwi dal yn gallu gweld ei hwyneb – ei gwallt du a’i chyrls hardd.”

Daeth yn amlwg bod maint y golled yn rhy fawr i’r athrawon barhau â’r dasg o adnabod y cyrff. Ond fe wnaeth Mair, yng nghwmni Hettie a Reenie, barhau i gynnig cysur a chefnogaeth.

“Fe aethom i ymweld â rhieni’r plant fu farw, ac roedd hynny’n hynod o drist, ond roedd angen i ni wneud pethau felly,” meddai Mair.

Mae hi’n credu bod y tair athrawes, heb unrhyw gefnogaeth ffurfiol ar eu cyfer, wedi rhoi cefnogaeth emosiynol i’w gilydd.

Fe gadwodd yr athrawon gysylltiad agos gydol eu hoes.


BBC News

See also  AS Llanelli Nia Griffith yn gadael llywodraeth Syr Keir Starmer

Check Also

First Minister Rhun ap Iorwerth wants swift Welsh Gender Service review

A review into surgery services at Wales’ only transgender clinic must be quick, First Minister …

Woman died of heatstroke climbing Yr Wyddfa, inquest hears

A 35-year-old woman died of heatstroke on Wales’ highest mountain, an inquest has heard. Sophie …

Arestio pedwar mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes ym Môn yn 1994

Mae tîm adolygu troseddau mawr Heddlu’r Gogledd wedi bod yn adolygu’r achos ers 2024. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime