google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ateb y Galw: Merfyn Jones

Merfyn JonesFfynhonnell y llun, Merfyn Jones

Merfyn ‘Smyrff’ Jones, y tywyswr mynydd ac aelod o dîm achub mynydd Eryri sy’n Ateb y Galw’r wythnos hon.

Bydd Merfyn yn tywys y cyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes, wrth iddo wneud ei her ar gyfer Plant Mewn Angen eleni.

Bydd Aled yn ceisio cerdded 135 o filltiroedd mewn saith diwrnod ar hyd Llwybr Pererin Gogledd Cymru, gan gychwyn yn Nhreffynnon a gorffen yn Aberdaron.

Dechreuodd y daith ddydd Sadwrn 9 Tachwedd 2024 gan anelu i orffen ddydd Gwener 15 Tachwedd 2024.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Cael row gan y prifathro am ddengid i ffwrdd o’r ysgol un amser cinio gyda criw o fy ffrindiau!

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Crib Goch oherwydd ei fod yn heriol a dwi’n mwynhau’r sialens o fynd â grwpiau amrywiol drosto.

Ffynhonnell y llun, Merfyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Merfyn yn dringo dros Crib Goch

Beth yw’r noson orau i chi ei chael erioed?

Gweld Arsenal yn curo Barcelona yn y Champions League yn Stadiwm yr Emirates.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Penderfynol, brwdfrydig a phrysur.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl ‘nôl?

Pasio fy nghwrs arweinydd mynydd gaeaf.

Ffynhonnell y llun, Merfyn Jones

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Cefais fynd i weld gêm Wrecsam yn erbyn Arsenal yn y Cae Ras. Roeddwn i’n un o’r cefnogwyr oedd yn cefnogi Arsenal yng nghanol cefnogwyr Wrecsam pan ddaru nhw ein curo 2-1!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm hanesyddol yng Nghwpan FA Lloegr rhwng Wrecsam ac Arsenal, ble roedd Merfyn yno yn cefnogi Arsenal

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Ffynhonnell y llun, Merfyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mulhacén – mynydd ger Granada yn ne Sbaen

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Beth yw eich hoff lyfr a pam?

Llyfr Antur i’r Eithaf – atgofion byw ar y dibyn gan Eric Jones oherwydd roedd yn braf darllen am lwyddiant a phrofiadau anhygoel Cymro lleol sydd yn ysbrydoli eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Eric Jones, un o arwyr Merfyn

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gennyf gasgliad o slipers gwirion ac yn cael rhai newydd pob Nadolig.

Ffynhonnell y llun, Merfyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Merfyn yn gwisgo pâr o slipars o’i gasgliad eang

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Dringo mynydd nad wyf wedi ei wneud o’r blaen.

Ffynhonnell y llun, Merfyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ar fynydd Piz Boe yn y Dolomites

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Un o fy hoff luniau yw cyrraedd copa Mont Blanc yn Ffrainc gyda fy ffrind Dafydd.

Ffynhonnell y llun, Merfyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Advertisements

Ar gopa Mont Blanc gyda’i ffrind, Dafydd

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fy hoff bêl-droediwr, Dennis Bergkamp.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hoff chwaraewr pêl-droed Merfyn, Dennis Bergkamp


Source link

Views: 0

See also  Romania v Wales: Teams to play summer friendly at Bucharest's Steaua Stadium

Check Also

Teyrnged i feiciwr modur a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn

Mae teulu beiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mynytho, Pen Llŷn wedi …

Diffoddwyr yn ymateb i danau gwyllt yng Nghwm Elan

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud eu bod wedi anfon hofrennydd diffodd tân i …

Straeon buddugol awduron ifanc Radio Cymru

Mae’r cyflwynydd Aled Hughes wedi cyhoeddi enwau’r tri awdur ifanc sydd wedi dod yn fuddugol …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Nordicnodes | professional saas tools for everyone.