google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 5 2026

Ateb y Galw: Martha Elen

A305afc0 3240 11f0 9702 032be3c1f222.jpg

Martha ElenFfynhonnell y llun, Martha Elen

Y gantores Martha Elen sy’n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.

Fe wnaeth Martha, sy’n dod o’r Felinheli yng Ngwynedd, ryddhau ei sengl cyntaf ‘Canu Cloch’ ar label Ikaching yn mis Ebrill. Yn ôl y label mae’n gân sy’n ‘cyfuno gweadau cynnil gwerin-americana gyda haenau lleisiol ac alawon bachog alt-pop’.

Ynghŷd â’i brawd, Jona, mae hi hefyd yn un o sylfaenwyr y wefan ‘Awni?’ – gwefan sydd yn ffynhonnell i helpu bobl ddarganfod pa gigs Cymraeg sy’n digwydd ar hyd a lled y wlad.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Un o fy atgofion cynhara’ ydi o fy mlwyddyn gynta’ yn ysgol Hendre, Caernarfon, yn joio fy hun yn lliwio llun o Sam Tân, a wedyn stresho ‘rôl sylwi fod ei wynab o’n las – gutted!

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Adra yn Y Felinheli – caru bod mor agos i’r môr a’r mynyddoedd!

Martha OwenFfynhonnell y llun, Martha Elen

Beth yw’r noson orau i ti ei chael erioed?

Lot o nosweithia’ da dros y blynyddoedd – ond un sy’n dal i dopio’r lleill ydi noson ‘Leavers’ ym Mangor yn dathlu gadael ysgol. Digwydd bod yr un noson oni’n troi’n ddeunaw. Lot o hwyl o be dwi’n gofio!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Swnllyd, prysur, a hapus.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl ‘nôl?

Trip fi a’n ffrindia’ i Galway, Iwerddon flwyddyn dwytha i ddathlu Dydd San Padrig! Lot o grysa’ gwyrdd, lot o grwydro tafarndai, *trio* yfed Guinness, a dod i nabod criwiau o bob cornel o’r byd odd ‘di dod draw i ddathlu’r diwrnod!

Merched mewn tafarnFfynhonnell y llun, Martha Elen

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddoe – yn gwylio un o’r Black Mirrors newydd, ‘Eulogy’.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Safio cannoedd o ‘recipe videos’ ar TikTok a byth, byth yn trio un!

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Sgenai’m rili hoff lyfr erbyn hyn, isio dechra darllen mwy! O’n i’n darllen lot yn ysgol – reit random ond cofio rili mwynhau astudio Jane Eyre gan Charlotte Bronté! Ella mod i’n licio’r classics, dwnim!

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Swni’n joio cal diod efo unrhyw un ar banel ‘Would I Lie To You’ – Lee Mack neu David Mitchell wastad yn g’neud i fi chwerthin go iawn!

Lee Mack & David Mitchell

Beth fyddet ti’n wneud ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned?

Swni’n mynd am dro, fyny mynydd ella. Cal pryd o fwyd neis adra efo’r teulu (Chan’s Felin fysa’r dewis cynta’). Ac os fysa ‘na gig ymlaen yn y nos i fynd efo’n ffrindia’, dyna fysa’r diwrnod perffaith wedyn!

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Neshi ffeindio’r llunia yma ar hen gamera mam o’n i ‘di tynnu yn rhyw dair oed o stafelloedd fi a mrawd. Ma’r stafelloedd wedi’u newid lot erbyn heddiw felly falch mod i ‘di penderfynu cadw cofnod ohonyn nhw o’n llygaid i circa 2004 – er dwi’n ama’ mai camgymeriad odd y llunia!

llofftFfynhonnell y llun, Martha Elen
Disgrifiad o’r llun,

Ystafell Martha nôl yn 2004, llun sy’n dod ag atgofion melys o’i phlentyndod

llofftFfynhonnell y llun, Martha Elen
Disgrifiad o’r llun,

Petasech ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

DoechiiFfynhonnell y llun, Getty Images

BBC News

See also  United Rugby Championship: Scarlets v Sharks (Fri)

Check Also

Cwblhau 100 marathon ultra mewn 100 diwrnod yn 'hollol boncyrs'

Mae cyn-chwaraewr rygbi proffesiynol yn gobeithio cwblhau her “anhygoel” yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn – ei …

Fighting Hugh Jackman in The Death of Robin Hood was ‘surreal’, says Merthyr Tydfil actress Jade Croot

It has been a busy time for Croot, who has also starred in Netflix’s Sacrifice, …

‘Byddwn yn cofio nhw i gyd’ – Diffoddwyr tân yn yr UDA 25 mlynedd ers 9/11

Bron i chwarter canrif ers ymosodiadau terfysgol 9/11 ar yr Unol Daleithiau, mae Cymro yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime