google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 9 2026

Ateb y Galw: Elin Tomos

Elin TomosFfynhonnell y llun, Elin Tomos

Mae Elin Tomos yn enw cyfarwydd i ddarllenwyr erthyglau hanes BBC Cymru Fyw.

Mae hi hefyd yn awdur ac wedi cyflwyno tair cyfres ar hanes i BBC Radio Cymru.

Yn wreiddiol o Nant Peris mae Elin bellach yn gweithio fel cynhyrchydd i Cwmni Da.

Yn ddiweddar cafodd Elin ei henwi ar restr 30 o dan 30 y cylchgrawn History Extra. Rhestr yw hon sy’n cydnabod cyfraniad sylweddol pobl dan 30 oed i hanes.

Dyma gyfle i ddod i ‘nabod Elin ychydig yn well.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cael fy mhigo gan wenyn ar wylia’ yn Llydaw a Gwen (fy chwaer fawr) yn trio fy nghysuro.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dw i wrth fy modd hefo traeth Porth Ceiriad ym Mhen Llŷn ond does ‘na ddim dwywaith mai yn Dyffryn Peris ma’ ‘nghalon i: cerdded wrth yr afon yn Nantperis, nofio yn Llyn Padarn, crwydro Chwarel a choedlan Dinorwig a does ‘na ddim curo’r olygfa o fynyddoedd Eryri o ‘Sbyty Chwarel Dinorwig. Dw i’n ffeindio ryw lonyddwch rhyfeddol ym mhob un o’r llefydd ‘ma.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Dyma’r olygfa mae Elin yn ei disgrifio fel un o’i hoff rai yng Nghymru

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan es i hefo criw coleg i Magaluf yn 2019 a thaflu hen-do ffug i Mirain un o fy ffrindia’ er mwyn cael diodydd am ddim!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwyliau yn Magaluf yn 2019 yn un fythgofiadwy i Elin a’i ffrindiau

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy’ o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti’n meddwl nôl?

Pasio fy mhrawf gyrru o’r diwedd ar ôl y 5ed tro!

Dw i erbyn hyn yn gallu chwerthin ar y troeon nes i fethu hefyd.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya’ o gywilydd arnat ti erioed?

Ar drip ysgol ym Mlwyddyn 10 i ochra’ Harlech nes i ddisgyn mewn i gors ofnadwy o fwdlyd a dwfn!

O’n i fatha Dawn French yn y bennod ‘na o Vicar of Dibley pan mai’n neidio yn y pylla’ dŵr.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wythnos diwethaf yn gwrando ar Desert Island Discs yr actor Jamie Dornan yn trafod am ei fagwraeth yn Belfast yn ystod y Troubles ac am golli ei fam yn ifanc.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Syrthio i gysgu tra’n gwylio ffilm!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dw i’n gwrando ar lot o bodlediadau – rhai bwyd a hanes yn bennaf. Dw i’n licio Dish a Comfort Eating with Grace Dent o ran bwyd a You’re Dead to Me, Afterdark, A Short History of… o ran hanes.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod? Pam?

Uwchben fy nesg adra’ mae gen i ffotograff o’n hen, hen, hen Nain a Taid – John a Betsan Roberts – a’u plant gan gynnwys fy hen, hen Nain, Magi wedi’w fframio.

Mi fyswn i wrth fy modd yn cwrdd â nhw! Mae’r ffotograff wedi cael ei dynnu tua canol y 1890au dw i’n meddwl. Mi fyswn i’n licio eu holi am eu bywyd a gweld os ydw i yn debyg iddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Dyma lun o deulu Elin gafodd ei dynnu yng nghanol y 1890au

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dw i’n licio casglu hen ddarna o blatia’ pan dw i’n mynd am dro.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin wrth ei bodd yn casglu darnau o hen blatiau wrth fynd am dro

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Mynd i nofio ar y traeth, cael llwyth o fwyd yn y tŷ hefo’n nheulu a’n ffrindia’ a gorffen y noson rownd tafarndai Caernarfon.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Dyma’r llun mae Elin yn ei drysori fwyaf o’i chasgliad, llun o’i diweddar nain a’r colomenod

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Llun o Nain wedi ei gorchuddio mewn colomennod! Mi o’dd Nain yn dynnwr coes heb ei hail ac yn licio g’neud i bobol chwerthin.

Advertisements

Dw i’n teimlo bod y llun yma yn crynhoi ei phersonoliaeth hwyliog i’r dim. Mi nes i golli Nain yn ystod y cyfnod clo a dw i’n cael lot o gysur yn sbïo ar y llun yma ohoni.

See also  Welsh rugby: Personal abuse of WRU has gone too far, says board member John Manders

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?


Source link

See also  Church should 'represent diversity in communities', new leader says

Check Also

Ethan Bamber boosts Warwickshire Bears as Glamorgan crumble

Glamorgan made two changes bringing in Jack Hope-Bell for his first class debut in place …

Don’t Look Back In Anger: Oasis’ Cardiff comeback gig emotional, directors say

Oasis’ reunion gig at Cardiff’s Principality Stadium was a “hugely emotional” experience that took Noel …

Cyfres newydd eisiau chwalu'r 'stigma a'r myth' am ddigartrefedd

Mae angen cael gwared â’r stigma a’r camwybodaeth am ddigartrefedd os yw pobl am fod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime