google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ateb y Galw: Dilwyn Price

Dilwyn PriceFfynhonnell y llun, Dilwyn Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae o’n gymeriad cyfarwydd i filoedd o blant fu’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni…

Dilwyn Price, sydd wedi gwirfoddoli gyda’r mudiad ers degawdau, ydi meistr y seremoni ar Lwyfan y Cyfrwy lle mae’r holl ganlyniadau yn cael eu cyhoeddi.

Cyn i’r camerâu ddod yn fyw at Mari Lovgreen i ddatgelu’r enillydd, Dilwyn Price sy’n cadw trefn a chael hwyl gyda’r dorf… a heddiw y fo sy’n Ateb y Galw.

Disgrifiad o’r llun,

Dilwyn Price a Mari Lovgreen yn diddanu’r dorf ar Lwyfan y Cyfrwy 2024. Mae’r lleoliad – a’r ddau gymeriad – wedi dod yn elfen bwysig o’r Eisteddfod ers iddi ail-gychwyn ar ôl y pandemig

Beth yw eich atgof cyntaf?

Yn ddwy neu dair blwydd oed daeth injan stêm i’r stryd lle oeddwn yn byw ym Maes Pennant, Mostyn.

Wrth i Dad fy nghodi i sefyll gyda’r gyrrwr fe agorwyd drws y tân a chlywais y geiriau “Dyma lle mae hogia’ drwg yn mynd!”

Neidiais yn syth yn ôl i freichiau diogel Dad!!

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Porth Trecastell, Sir Fôn. Dyma un o lefydd gorau Helen a finnau, lle cawsom gymaint o hwyl ac ymweliadau difyr gyda’r teulu a ffrindiau ar y traeth. Llosgi, chwerthin, oeri, cysgodi…

Disgrifiad o’r llun,

Beth yw’r noson orau i chi ei chael erioed?

Mai 12fed 1970 – dyma’r noson pan gafodd Helen a finnau ein cusan gyntaf.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair

Cyfeillgar, bywiog, direidus

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl ‘nôl?

Tra’n aelod o Cantorion Gwalia, o dan arweiniad y ddiweddar Rhys Jones, cawsom gymaint o hwyl cyn ein hymarferion yn rhannu storïau a hel atgofion am rai o gyngherddau gynt – y fâs blodau, a’r piano a’r angen i fynd i’r toiled yn glasur!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Cefais fy ngwers gyntaf nofio, credwch neu beidio, yn neuadd yr ysgol – pawb yn gorwedd ar gadeiriau ac yn smalio nofio.

Un diwrnod oer ym mis Hydref aethom o Ysgol Bryn Pennant i’r Royal Lido, hen bwll nofio awyr agored ym Mhrestatyn, i dderbyn ein gwers nofio gyntaf go iawn.

Wrth reswm roedd Mam wedi sicrhau fod gennyf bar newydd o trunks – rhai gwlân! Neidiais i mewn i’r dŵr oer ac yna… dwi’n siŵr ‘da chi’n gallu dyfalu sut nath y gwlân a’r dŵr wrthdaro!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Daeth deigryn i’m llygad wrth wylio rhaglen teyrnged ar y teledu i’r ddiweddar chwaraewr rygbi Rob Burrow. Am ddyn, a theulu dewr, yn gorfod wynebu byw gyda MND. Roedd Kevin Sinfield yn ffrind mor annwyl a gwerthfawr.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Dwi’n siŵr fod gennyf nifer! Diffyg clywed beth mae Helen yn ei ddweud ydi’r diweddaraf!

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd/FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Dim rhyfedd nad ydi Dilwyn yn clywed Helen gyda’r holl sŵn ar Lwyfan y Cyfrwy…

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Dwi wedi troi tudalennau Lord of the Rings mwy nag unwaith ac yn dal i fwynhau’r antur hudolus.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Yn ddi-os un o’m harwyr ydi Gareth Edwards ond basa’n braf cael sgwrs gyda Tchaikovsky neu Bach neu Handel.

Sut ar y ddaear wnaethant greu gymaint o gampweithiau cerddorol? Pwy oedd yn paratoi’r papur manuscript?

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Pan es i draw i 10 Stryd Downing, 1 Fawrth 2016, eisteddais o gwmpas bwrdd a ddefnyddwyd yng Nghynhadledd G8 2013 draw yng Ngogledd Iwerddon.

Efallai roeddwn yn eistedd yn sêt Angela Merkel neu Barack Obama neu Vladimir Putin…

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Mwynhau cwmni fy nheulu wrth arwain glamp o Jambori!

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Nain a Taid gyda’u wyrion a’u wyresau: (o’r chwith i’r dde) Efa, Lili, Helen, Dilwyn, Noa, Lwsi a Cadi

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Gareth Edwards yn sgorio cais dros Gymru i guro’r Crysau Duon!


Source link

Advertisements

See also  Cannabis plot accused 'had no idea what was in parcel'

Check Also

Llywodraeth yn wynebu rownd gwariant anoddaf ers cyn y pandemig – Gweinidog Cyllid

Mae’r Gweinidog Cyllid Elin Jones wedi rhybuddio y bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu ei rownd …

Dyn 43 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili

Mae dyn 43 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili nos Sadwrn, yn …

Lluniau: Llanuwchllyn v Y Bala

Roedd ‘na gyffro ym Mhenllyn penwythnos yma gyda Chlwb Pêl-droed Llanuwchllyn yn croesawu’r Bala i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime