google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Ateb y Galw: Carwyn Blayney

Carwyn BlayneyFfynhonnell y llun, Edward Moore

Mae’r digrifwr Carwyn Blayney, enillydd gwobr Welsh Unsigned Stand Up of the Year 2024, newydd berfformio yng Ngŵyl Gomedi Aberystwyth.

Mae o wedi bod ar daith yn cefnogi Elis James ac yn ddiweddar bu’n cyd-gyflwyno rhaglen Ar Led ar S4C. Ar 15 Hydref fe fydd yn recordio rhaglen banel gomedi What Just Happened? i BBC Radio Wales yng nghanolfan Chapter, Caerdydd.

Ond cyn hynny, mae o’n ateb cwestiynau Cymru Fyw.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Rwy’n cofio tipyn o bethau bach randym o fod yn fabi. Rwy’n cofio defnyddio bocs i gyrraedd y tŷ bach, rwy’n cofio cropian i fyny’r grisiau a llefain pan o’n i’n cyrraedd y top…

Fi hefyd yn cofio bod yn fabi yn eistedd ar gefn ride-on-lawnmower yn Ffrainc a meddwl “J’aime beaucoup la France. Peut-être je suis un bébé Français?”

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Gardd fy rhieni. Mae fy rhieni yn arddwyr arbennig, ac mae’r lle yn edrych mor bert. Mae ‘na ardal fwyta lle mae gen i fy ffwrn pizza, a fy hoff weithgaredd yn y byd yw cael pryd o fwyd mas tu fas.

Unrhyw bryd fi nôl yng Nghymru fe ga’i rhywbeth – brecwast, coffi, pizza home-made – mas tu fas. Hyd yn oed yn y glaw. Y peth gorau am gael coffi yn y glaw yw bod eich mwg yn ail-lenwi ei hun yn awtomatig.

Carwyn gyda'i ffrind yn bwyta pizzaFfynhonnell y llun, Carwyn Blaney
Disgrifiad o’r llun,

Noson pizza gyda Carwyn a Simon

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Beth yw’r noson orau i chi ei chael erioed?

Ar noson olaf gŵyl gomedi Machynlleth eleni, fe wnes i a fy ffrindiau cwpla penwythnos arbennig iawn trwy ddringo fyny’r bryn i’r arwydd Machynlleth a chael ychydig o wisgi wrth i’r haul fachlud.

Carwyn gyda'i ffrindiau ger arwydd MachynllethFfynhonnell y llun, Carwyn Blayney
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn gyda Gwydion, Steffan a Georgia

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Mae fy ffrind i Cennydd yn cofio rhyw adeg ym mlwyddyn 2 pan wnes i wthio fe mewn i wal ar y diwrnod pan roedden ni’n cael ffotos ysgol. Felly yn y ffotos roedd ganddo gleisiau dros ei wyneb.

Fi ddim yn cofio gwneud hyn, ond mae e (a’i fam) yn benderfynol bod e wedi digwydd, a dydyn nhw ddim yn gadael i fi anghofio am y peth.

Felly Cennydd (a Meinir) – fi wir yn sori. Mae bron 30 mlynedd wedi mynd heibio, oes unrhyw siawns gallwch chi faddau i mi am y peth?!

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl ‘nôl?

Pan roeddwn i’n gweithio i Gwmni Theatr Arad Goch, roedd ‘na un prynhawn lle ges i ddim gwaith wedi ei wneud o gwbl, achos y bore hwnnw fe wnes i alw fy nghyd-weithiwr yn “mam”. Fel plentyn ysgol gynradd yn galw “miss” yn “Mam”… ond y gwahaniaeth mwya’ fan hyn yw… roeddwn i’n 26 ar y pryd.

Carwyn, Nia ac AnnFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn gyda’i gyn-gydweithwyr yng Nghwmni Theatr Arad Goch, Nia ac Ann

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Rwy’n llefain yn aml, ar bob math o bethau. Rwy’n credu bod e’n beth da gallu cael gwd llefad.

Y noson cyn i fi sgwennu hwn fe wnes i lefain wrth wylio diwedd y ffilm Planes, Trains and Automobiles. Felly i ateb eich cwestiwn – tua 10 awr yn ôl.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Weithiau, os nad ydw i’n gallu meddwl am ateb da i rywbeth, ‘na’i jyst gofyn cwestiwn nôl iddyn nhw. Ydy hynny yn cyfri fel arfer drwg?

Carwyn yn gwneud standypFfynhonnell y llun, Alex Abimbola

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Hoff ffilm yw The Jungle Book. Y gwreiddiol o’r 60au (wrth gwrs. ‘Sneb wir yn hoffi y remakes newydd ma’, oes e?). Mae pob un cân yn bop llwyr, mae’n ddoniol, a dim ond awr a chwarter – yr hyd berffaith i ffilm.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Wel, pan roeddwn i’n fy 20au, roeddwn i arfer byw yn America yn cyd-redeg cwmni meth gyda fy cyn-athro cemeg, Mr White. Fe ddechreuon ni mewn RV, cyn tyfu i weithio o dan olchdy diwydiannol.

Roeddwn ni eitha’ llwyddiannus, credu bod tua $70 miliwn dal yn cuddio yn New Mexico rhywle.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Bob hyn a hyn fi’n cael urge i neud pryd o fwyd cyfan allan o siocled. Fel… M&Ms yn lle pys, Double Decker i fod fel darn o lasagne, Fererro Rocher yn lle tatws a chwpwl o Flakes i edrych fel moron.

See also  The two things AMD subtly revealed at CES that actually excite me

Credu bydde hwnna yn ffordd ddiddorol o wario fy 24 awr olaf.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Mel Brooks. Eicon o’r byd comedi.

Ro’n i’n gwylio ei ffilmiau pan ro’n i’n tyfu lan, ac erbyn hyn mae gen i fwy a fwy o barch at ei waith – yn profi bod modd i gomedi da gael engine pwysig o dan yr hiwmor.

Mel BrooksFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Mae fy nhad yn arlunydd arbennig o dda, ac mae un o’i luniau – golygfa hydrefol o heol ym Mhontsian – fel cefndir ar fy laptop i. Lle bynnag fi’n gweithio, boed mewn caffi yn Llundain, trên ar y ffordd i gig, neu set rhyw gynhyrchiad, rwy’n gweld pwt fach o adref cyn dechrau fy ngwaith.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Bydden i wrth fy modd yn cael un diwrnod o fod mewn corff unrhyw un sydd ddim yn colour-blind. Jyst i weld beth mae’n teimlo fel i allu chware gêm o snwcer heb godi embaras, neu brynu dillad heb orfod gofyn i rywun: “Sori… Pa liw yw hwn?”

Advertisements

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

See also  How drunken mistake saw Huyton Firm drug boss brought to justice

Check Also

The Other Bennet Sister wraps filming Christmas special in Wales

It was announced in June that there would be three, 30-minute Christmas specials, following the …

First Minister Rhun ap Iorwerth wants swift Welsh Gender Service review

A review into surgery services at Wales’ only transgender clinic must be quick, First Minister …

Woman died of heatstroke climbing Yr Wyddfa, inquest hears

A 35-year-old woman died of heatstroke on Wales’ highest mountain, an inquest has heard. Sophie …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime