google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

AS Llafur ‘ddim yn gwybod’ os fydd Gething yn gallu parhau

Mae aelod Llafur o Senedd Cymru wedi dweud nad yw hi’n gwybod a fydd Vaughan Gething yn gallu parhau fel prif weinidog ar ôl colli pleidlais o hyder ynddo.

Dywedodd Jenny Rathbone, AS dros Ganol Caerdydd, ei bod hi’n “sefyllfa ansicr iawn a bydd rhaid i ni ddisgwyl a gweld”.

Yn siarad ar raglen BBC Radio Wales Drive, dywedodd Ms Rathbone bod enw da’r Senedd mewn perygl a bod derbyn rhodd gan unigolion sydd wedi cael eu canfod yn euog o droseddau amgylcheddol “yn broblem”.

Ychwanegodd Ms Rathbone bod y mater wedi cael ei godi wrth ymgyrchu ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Daw wrth i BBC Cymru gael gwybod bod y grŵp Llafur yn y Senedd yn cynnal cyfarfod ddydd Gwener yn sgil anfodlonrwydd ymysg aelodau.


Source link

Views: 0

See also  Gavin & Stacey's Ruth Jones says she's ‘really bad at telling jokes’

Check Also

Bonnie Tyler funeral to be broadcast online to fans

Fans around the world will be able to watch a celebration of life service for …

Cyflwyno gwobr er cof am ‘lais eiconig’ y Sioe Fawr, Charles Arch

Roedd Charles Arch yn angerddol am sylwebu, ac fe gafodd y cyfle i ddechrau gwneud …

Disgwyl cyhoeddiad sychder wrth i lefelau afonydd agosáu at eu hisaf ar gofnod

Pwysleisiodd Dŵr Cymru fod datganiadau sychder Cyfoeth Naturiol Cymru yn wahanol i’w cyhoeddiadau nhw am …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Used to monitor number of google analytics server requests.