google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

AS ‘ar ei ffon ac yn poeni dim’ wrth wrando ar deuluoedd Covid

Dywedodd Sam Smith-Higgins o’r grŵp wrth y cyfarfod ei bod yn teimlo bod llywodraeth Lafur Cymru heb gefnogi eu ymgyrch.

Yna fe bwyntiodd at Mr Hedges gan ddweud: “Mae Mike ar ei ffôn nawr. Ni allai Mike falio llai.”

Atebodd Mr Hedges: “Ymchwilio i bethau o’n i, fel mae’n digwydd… ac os nad ydych hi eisiau i mi ymchwilio i bethau, wna’i ddim.”

Mewn ymateb i hynny, dywedodd Ms Smith-Higgins: “Ry’ch chi wedi bod ar eich ffôn gydol hwn [y cyfarfod] ac mae’n eithaf anghwrtais.”

Dywedodd un arall y dystion y grŵp, Anna-Louise Marsh Rees: “Os gwelwch yn dda a allwch chi ddangos parch atom a gwrando arnom.”

Atebodd Mr Hedges: “Yn sicr mi wnaf wrando arnoch, a bydd yn rhaid i chi wrando arnaf innau nes ymlaen.”

Ychwanegodd Ms Smith-Higgins: “Dyma ry’n ni wedi ei deimlo o’r dechrau – mae Llafur Cymru’n meddwl mai codi twrw ry’n ni, ac yn wir, fe allwn i grio.”


BBC News

Advertisements

See also  Arsenal were outstanding in second half - Arteta

Check Also

‘Hen bryd i’r Gymraeg gael cyfartaledd’ o ran oriau darlledu newyddion

Yr wythnos hon mae Cymdeithas Yr Iaith wedi cyfarfod â phenaethiaid BBC Cymru i leisio …

Côr Meibion Bro Aled yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu

Ers ei sefydlu mae’r côr wedi rhyddhau pedwar albwm ac maen nhw’n mwynhau canu caneuon …

Kelly o’r Felinheli: Newid bywyd ar ôl bod ar heroin am 25 mlynedd

Mae ei gweithiau yn aml yn cael eu hysbrydoli gan natur. “Dwi’n mynd allan i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime