google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 28 2026

AS aeth o Reform i Blaid Cymru wedi ‘dweud celwydd am ei chredoau’ – Tice

Ychwanegodd Tice nad oedd y digwyddiadau wedi tynnu sylw aelodau Reform UK yn y Senedd oddi wrth ganolbwyntio ar y materion sy’n bwysig i etholwyr, fel y cychod bach sy’n croesi’r Sianel a’r terfyn cyflymder 20mya.

“Mae bywyd yn work-in-progress,” meddai.

“Y gwir amdani yw bod gennym ni grŵp o 33 o gynrychiolwyr etholedig, ac mai ni yw’r ail blaid fwyaf o gryn dipyn, ac ry’n ni’n codi materion sy’n hollol hanfodol i drigolion Cymru.

“Mae bywyd yn symud ar gyflymderau gwahanol, a weithiau dy’ch chi’n cael dyddiau da, a weithiau dy’ch chi’n cael dyddiau gwael… bydd gennym ni arweinydd newydd yn fuan iawn.

“Ond mae ein cynrychiolwyr yn bwrw ymlaen â’r gwaith o gynrychioli eu hetholwyr a chodi’r materion y maen nhw am eu gweld yn cael sylw.”

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod “Sarah wedi bod yn onest am ei thaith wleidyddol ac wedi cydnabod bod ei barn wedi newid ers iddi fynd i mewn i wleidyddiaeth gyntaf”.

Gallwch weld mwy o gyfweliad Richard Tice ar Politics Wales ar BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul ac ar iPlayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Colwyn Bay: Lauren Harris jailed for murdering man who loved her

Check Also

Cynghorydd sir yn un o dri yn ddieuog o gyhuddiadau twyll bridio cŵn

Mae tri o bobl wedi eu cael yn ddieuog o fod yn rhan o dwyll …

Cynghorydd sir yn un o dri yn ddieuog o gyhuddiadau twyll bridio cŵn

Mae tri o bobl wedi eu cael yn ddieuog o fod yn rhan o dwyll …

Osian Pryce: ‘Mae’n od bod Elfyn yn Bencampwr y Byd a fi’n Bencampwr Prydain’

Mae Osian Pryce o Fachynlleth wedi cipio tlws Pecampwriaeth Rali Prydain Motorsport UK am yr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime