google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio tri ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn ffrae yn Nhredegar

Advertisements

Mae tri dyn o Dredegar wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn adroddiad am ffrae yng nghanol tref Tredegar.

Dywedodd yr heddlu bod ymholiadau cynnar yn dangos bod y dioddefwr, dyn 36 oed o Dredegar, wedi bod yn rhan o ffrae gorfforol rhwng nos Wener o tua 22:00 ac oriau mân fore Sadwrn, tua 02:00.

Mae’r dynion, 18, 19 a 51 oed, yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Ychwanegodd yr heddlu fod teulu’r dioddefwr yn derbyn cefnogaeth ac maent yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu gyda nhw.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Robin Fuller fod yr ymchwiliad yn y “camau cynnar” a mynegodd ei gydymdeimladau gyda theulu’r dioddefwr.

“Rydym yn gweithio i sefydlu’r amgylchiadau llawn ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn siarad ag unrhyw un a oedd yn ardal Stryd y Castell, gyferbyn â Gwesty’r Castell a Gemwaith Jem, rhwng 01:00 a 02:00 fore Sadwrn.

“Mae ein swyddogion yn aros yn ardal Tredegar wrth iddynt barhau i gasglu tystiolaeth ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu wybodaeth, yna siaradwch â nhw.”


BBC News

See also  Brothers who were racing home guilty of killing man and seriously injuring son

Check Also

Fertility patients facing delays over staff absence

Patients starting new fertility treatments at Neath Port Talbot Hospital are facing delays of “at …

Galw am helpu adeiladwyr y dyfodol ar ôl i 100 ymgeisio am 6 lle hyfforddi

Mae angen cynllun hirdymor a chyllid i greu mwy o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc …

Yr ymgyrch yng Nghrymych i roi ail fywyd i hen esgidiau rygbi

Fel athro yn Ysgol Bro Preseli, mae Martin yn gweld fod ymgyrchoedd fel hyn yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime