google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio pedwar wedi gwrthdrawiad yn Y Rhyl fore Sadwrn

Mae pedwar o bobl wedi eu harestio ar ôl i ddyn gael ei anafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Y Rhyl fore Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ar Ffordd Kingsley yn y dref am tua 08:22 yn dilyn adroddiadau bod cerddwr wedi cael ei daro gan gerbyd, cyn i’r gyrrwr ffoi o’r safle.

Cafodd dyn 77 oed ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Stoke gydag anafiadau sy’n cael eu disgrifio fel rhai “difrifol”, ond mae o bellach mewn cyflwr sefydlog, yn ôl yr heddlu.

Daeth swyddogion o hyd i’r car yr oedden nhw’n amau o fod yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad y tu allan i eiddo ar Heol Marsh a chafodd pedwar o bobl, oedd y tu mewn i’r eiddo, eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau gyrru.

Mae’r tri dyn ac un ddynes yn parhau yn y ddalfa.

Mae Heddlu’r Gogledd yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i’r ymchwiliad i gysylltu â nhw cyn gynted â phosib.


Source link

Advertisements

See also  Missing Charlene Hobbs: Cardiff man arrested in search for woman

Check Also

Reu! Llechi wedi eu naddu ym Mhen-y-groes i ddathlu cyfraniad Dyfrig Evans

Meddai Llio: “Mae’n gyfle da i atgoffa pobl o’r cyfoeth o bobl sy’n byw yn …

2026 World Track Cycling Championship: Great Britain’s men out in first round in team sprint while women takes silver

Great Britain’s Joe Truman said team-mate Matt Richardson’s withdrawal was “not ideal” and they had …

Newport woman died after paint can exploded in garden fire

A woman died three months after suffering severe burns when a paint canister exploded in …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime