google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio pedwar ar ôl ymgyrch heddlu arfog ym Mlaenau Ffestiniog

Mae pedwar person wedi cael eu harestio yn dilyn ymgyrch gan heddlu arfog ym Mlaenau Ffestiniog dros y penwythnos.

Fe wnaeth Heddlu’r Gogledd gynnal yr ymgyrch yn ardal Heol Cromwell ddydd Sadwrn, wedi iddyn nhw dderbyn adroddiad bod rhywun wedi ymosod ar ddyn yno bron i bythefnos yn ôl ar 16 Hydref.

Dywedodd y llu eu bod wedi dod o hyd i arfau a chyffuriau mewn eiddo yno.

Cafodd tri pherson eu harestio ar amheuaeth o glwyfo, aflonyddu, bod ag arfau yn eu meddiant a bod â chyffuriau dosbarth A yn eu meddiant.

Cafodd pedwerydd person ei arestio ar amheuaeth o fod ag arfau bygythiol mewn tŷ preifat, a bod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant.

Ers hynny maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth gydag amodau tra bod ymholiadau’r heddlu yn parhau.


Source link

Advertisements

See also  Cwis: Albyms gorau Cymru - BBC Cymru Fyw

Check Also

Swansea City: John Toshack watches on as Vitor Matos’ table-toppers eye own history

Swansea’s next two fixtures – against last season’s play-off semi-finalists Millwall and promotion favourites West …

Man dies at scene of motorbike and car crash in Swansea

A man has died following a crash between a motorbike and a car in Swansea. …

Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn y de

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn Abertawe. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime