google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 16 2026

Arddangosfa barhaol i ddathlu Deiseb Heddwch Menywod Cymru

Advertisements

Bu Academi Heddwch Cymru yn cydweithio gyda’r Llyfrgell Genedlaethol ar y prosiect.

Dywedodd ysgrifennydd yr academi, yr Athro Mererid Hopwood: “Mewn dyddiau sy’n llawn straeon am ryfel a thrais, mae penderfyniad ein Llyfrgell Genedlaethol i neilltuo lle i’r arddangosfa bwysig hon yn ddatganiad o ffydd a gobaith.

“Mae’n rhoi cyfle inni gael ein hysbrydoli gan y gorffennol i ddychmygu – ac i greu – dyfodol lle mae pobloedd y byd yn gallu cyd-fyw’n heddychlon â’i gilydd.”

Cafodd yr arddangosfa newydd ei hagor yn swyddogol gan y gweinidog diwylliant Jack Sargeant AS.

“Mae’r ymgyrch hynod hon, a unodd bron i 400,000 o ferched Cymru, yn dyst i’n gwerthoedd parhaol fel cenedl heddychlon,” meddai.

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r gwaith i ddod â’r darn anhygoel hwn o hanes Cymru adref lle mae’n perthyn.

“Mae neges y ddeiseb – sy’n galw am ‘gyfraith nid rhyfel’ ac am fyd heb wrthdaro – yn parhau i fod yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd ganrif yn ôl.”

Y ddeiseb yw canolbwynt yr arddangosfa, ond mae hi hefyd yn cynnwys hanes ymgyrchoedd heddwch eraill gan gynnwys gweithredu gan ferched Comin Greenham.


BBC News

See also  Dur Port Talbot ym mhrif wobrau Eisteddfod yr Urdd eleni

Check Also

AS Reform Sarah Cooper-Lesadd yn symud i Blaid Cymru

Cafodd Ms Cooper-Lesadd ei hethol i’r Senedd fis Mai i gynrychioli Pen-y-bont Bro Morgannwg. Ers …

Reform MS Sarah Cooper-Lesadd plans to defect to Plaid Cymru

Plaid Cymru’s ruling body is meeting Tuesday afternoon to discuss the defection of a Reform …

Arweinydd Reform Cymru yn ymddiswyddo ar ôl cael ei ‘gyfeirio at yr heddlu’

Mae Dan Thomas wedi ymddiswyddo fel arweinydd Reform yng Nghymru. Mewn datganiad, dywedodd: “Dros y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime