google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Apêl heddlu am Gymro, 36, sydd ar goll yn Sbaen

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth am ddyn 36 oed o Gymru sydd ar goll yn Sbaen.

Roedd Jason Taylor ar ei wyliau yn Alicante, yn ne-ddwyrain y wlad, ac yn bwriadu teithio ‘nôl adref fore Sadwrn, 29 Mawrth.

Dechreuodd Mr Taylor aros am gymorth yn dilyn problem gyda’i docyn awyren, ond gadawodd y maes awyr ar droed am tua 09:00, heb siarad ag unrhyw un.

Mae apêl am wybodaeth wedi’i gyhoeddi gan Heddlu’r Drenewydd a Llanidloes, ac mae heddlu yn Sbaen wedi cadarnhau eu bod yn chwilio.

Mae Jason Taylor wedi cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, tua 5 troedfedd 10 modfedd o daldra, gwallt brown ar ochrau ei ben a moel ar ei goryn.

Cafodd ei weld ddiwethaf yn gwisgo crys-T coler wen, siorts tywyll, trainers gwyn ac roedd ganddo gês olwynion du.


BBC News

Advertisements

See also  Mike Ruddock: Grand Slam-winning former Wales coach joins South Gower RFC staff

Check Also

Staff amgueddfeydd Cymru’n wynebu ymddygiad ‘erchyll’ gan ‘bobl blin’

Roedd yr ASau yn cynnal eu sesiwn graffu flynyddol gyda phrif weithredwr Amgueddfa Cymru a …

Referee Ben Whitehouse joins Wales coaching team for Nations Championship

Referee Ben Whitehouse has joined the Wales coaching team ahead of the upcoming Nations Championship …

Lluniau: Gŵyl Sŵn 2026 – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime