google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 21 2026

Apêl am ddynes 91 oed ar goll o Sir Conwy

Mae yna bryder am ddynes oedrannus sydd ar goll yn Sir Conwy.

Fe welwyd Adele, 91 oed, ddiwethaf pan aeth am dro o’i chartref yn Llanfair Talhaearn am 18:30 nos Fawrth i gyfeiriad Llangernyw.

Ar y pryd roedd hi’n gwisgo het wlan wen, sgarff amryliw, siaced las a chardigan glas golau, jîns glas ac esgidiau cerdded.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio ar unrhyw sydd ag unrhyw wybodaeth am Adele i gysylltu gyda nhw drwy ffonio’r rhif argyfwng, 999, gan ddyfynnu’r cyfeirnod Q076589.

Eisoes mae timau o’r heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a gwirfoddolwyr wedi bod yn chwilio amdani yn yr ardal.

Dywedodd y Prif Arolygydd Emma Parry: “Rydym yn gynyddol bryderus am les Adele, gan ei bod nawr wedi bod ar goll am dros 20 awr.

“Rwy’n gofyn i drigolion lleol i edrych yn eu gerddi ac adeiladau allanol, ac os ydych chi’n credu eich bod wedi gweld Adele yna cysylltwch â ni cyn gynted â phosib drwy ffonio 999.”


Source link

Advertisements

See also  Merch, 8, wedi marw ar ôl 'episod meddygol' mewn ysgol gynradd

Check Also

Anna Morris: World champion’s medical career still ‘on pause’ for Olympics

After years of dominance, it has felt like the rest of the world has caught …

Tributes paid to Caerphilly man who died during Cardiff Half Marathon

The family said Ross had trained for the half marathon with “commitment, enthusiasm and careful …

Wales using 2027 Lions tour to New Zealand for extra motivation – Sean Lynn

Boss Sean Lynn is using next year’s historic British and Irish Lions Women’s tour as …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime