google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Anrhydeddu D Ben Rees am gyfraniad oes i fyd llyfrau

Advertisements

O ran ei waith fel awdur a chyhoeddwr mae D Ben Rees wedi gweithio mewn pum maes am gyfnod o dros 60 mlynedd – sef heddwch a heddychiaeth, diwylliant Cymru a hanes Cymry amlwg, hanes cymuned Gymraeg Lerpwl a glannau Mersi, diwinyddiaeth a hanes cenhadaeth fyd-eang a defosiwn a gweddïau.

Ymhlith ei lyfrau mae bywgraffiad Gandhi, cyfrol ar yr heddychwr Henry Richard a phedwar llyfr ar John Calfin a Chalfiniaeth.

Newydd ei chyhoeddi mae cyfrol arbennig o’i waith ar Gymry Lerpwl – un o nifer o gyfrolau ar hanes y ddinas.

Gydag yntau wedi sefyll mewn Etholiad Cyffredinol ar ran y Blaid Lafur yn y 1970au dyw hi ddim yn syndod ei fod wedi llunio cyfrolau ar aelodau amlwg o’r blaid yng Nghymru – yn eu plith Cledwyn Hughes, Aneurin Bevan a James Griffiths.

“Rwy’n credu mai’r cyfrolau Cymraeg a Saesneg i Mabon a Jim Griffiths rydw i fwya’ balch ohonyn nhw ac hefyd yr un Dr Owen Thomas, tad-cu Saunders Lewis – fe gafodd y gyfrol wobr Ellis Griffiths gan Brifysgol Cymru,” ychwanegodd.

“Rwy’n falch i ddweud er bo fi wedi cael gwaeledd yn ddiweddar bo fi’n dal i ysgrifennu.

“Ar hyn o bryd rwy’n ysgrifennu cyfrol ar sosialwyr Cristnogol o bob plaid a hefyd dwi’ wrthi yn ysgrifennu cyfrol ar y bobl a adeiladodd Lerpwl.

“Dwin lwcus bod fy meddwl dal yn chwim, rhaid cadw’n brysur – fyddai byth yn rhy hen i ysgrifennu.”

Mae cyfweliad D Ben Rees i’w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds


BBC News

See also  Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd: Urddo Gerald Davies yn farchog

Check Also

First Minister Rhun ap Iorwerth wants swift Welsh Gender Service review

A review into surgery services at Wales’ only transgender clinic must be quick, First Minister …

Woman died of heatstroke climbing Yr Wyddfa, inquest hears

A 35-year-old woman died of heatstroke on Wales’ highest mountain, an inquest has heard. Sophie …

Arestio pedwar mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes ym Môn yn 1994

Mae tîm adolygu troseddau mawr Heddlu’r Gogledd wedi bod yn adolygu’r achos ers 2024. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime