google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Annie Suganami: Cofio marwolaeth gŵr mewn damwain cwch

Roedd Annie Suganami wedi symud i weithio fel athrawes yn Awstralia yn yr 1970au lle wnaeth hi gyfarfod a phriodi Ken McCutchen.

Fe brynodd ei gŵr gwch bychan, ond wnaeth o ddim prynu siaced diogelwch er bod Annie wedi erfyn arno sawl gwaith i gael un.

Yn 1976 fe benderfynon nhw fynd â’r cwch allan ar lyn, er bod y tywydd yn wael. Fe gafodd Mr McCutchen gynnig benthyg siaced diogelwch gan berson ar y lan.

Yn siarad ar raglen Beti a’i Phobol, dywedodd Annie: “Ddudodd Ken ‘na na na’, neshi ddeud ‘Ken don’t be a fool… cymer y life jacket ok?'”

“O’n i’n gwisgo un fi a wedodd e ‘well if you loved me you’d give me your jacket’…

“A fi’n cofio Gaff y prifathro pan o’n i’n tyfu lan drwy ysgol gynradd [yn dweud] ‘never try to save a drowning man, peidiwch neidio ar ôl ci mewn i’r dŵr, os gwympith rhywun mewn dŵr peidiwch neidio mewn – a drowning man will drown you’.

“Roeddet ti’n tyfu lan ‘da’r wybodaeth yma ac roedd Mam yn neud siŵr bod ni gyd yn gallu nofio. ‘No mate’ wedes i ‘dwi wedi gweud wrtha ti am fisoedd [i brynu un]. Dwi’n gwisgo hon achos bod fi’n gall… respect the water mate ma’ fe’n gryf’.”


BBC News

Advertisements

See also  Beicio 3,000km o Sbaen yn ôl adref i Fôn

Check Also

Burnham’s devolution plan won’t work in Wales, ex-minister says

Former Welsh local government minister Alun Davies told Radio Wales Breakfast on Monday he was …

John Lewis – ‘un o gewri byd cyhoeddi Cymru’, wedi marw

Yn ystod cyfweliad ar Beti a’i Phobol yn 2012, bu John Lewis yn sôn am …

Protest yn Sir Gâr wrth i gyngor gytuno i ymgynghori ar gau ysgolion

Yn ôl Mair Morgan, sydd ymhlith sawl cenhedlaeth o gyn-ddisgyblion Ysgol Bancffosfelen, mae yna “siom …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime