google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Anhapus’ eithrio’r Brenin rhag erlyniad amgylcheddol

Mewn datganiad, fe ddywedodd Palas Buckingham bod ‘na gyfraith yn rhwystro Senedd Cymru rhag creu cyfreithiau a allai arwain at y Brenin yn wynebu achosion troseddol.

O ganlyniad, fe gysyllton nhw gyda’r llywodraeth yng Nghaerdydd i sicrhau y byddai’r rheol yn cael ei pharchu fel rhan o Ddeddf Amaethyddol 2023.

Mae’r ddeddf yn disodli nifer o reolau amaethyddol roedd yn rhaid i ffermwyr eu dilyn tra roedd Prydain yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth llefarydd ar ran y palas gadarnhau bod swyddogion wedi ffonio’r llywodraeth, ond dywedodd ei bod hi’n “hollol anghywir i awgrymu bod hynny’n rhoi Llywodraeth Cymru dan bwysau”.

Dywedodd: “Ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau ar unrhyw adeg gan Lywodraeth Cymru, naill ai’n ffurfiol nac yn anffurfiol, mewn perthynas â’r broses hon.

“Rhoddwyd caniatâd yn y ffordd arferol, yn ogystal â’r Cydsyniad Brenhinol.”

Ychwanegodd bod y Brenin wedi rhoi ei ganiatâd bob tro y mae’r llywodraeth wedi gofyn amdano.


Source link

Advertisements

See also  Runaway reindeer who fled Formby attraction has security beefed up

Check Also

Llywodraeth Cymru’n ystyried gwahardd diodydd egni i rai dan 16 oed

Byddai’r rheolau’n berthnasol i ddiodydd, heblaw te a choffi, sy’n cynnwys mwy na 150mg o …

Man in court over explosives found near Aberfan Memorial Garden

A man has appeared in court after suspected explosives were found near the Aberfan Memorial …

FA Cup memories inspiring both Hayden Mullins and Newport County

Manager Hayden Mullins and Newport County are well acquainted with the drama of the FA …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime