google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 28 2026

Angen coffáu Catrin, merch Owain Glyndŵr, yn Harlech hefyd

Mae’n bryd coffáu Catrin, merch Owain Glyndŵr, yn Harlech ac nid yn Llundain yn unig, medd ymgyrchwyr.

Bellach mae deiseb wedi’i ffurfio gan un a symudodd i’r ardal bum mlynedd yn ôl yn gofyn am anrhydeddu Catrin yn lleol.

“Does yna ddim sôn amdani o gwbl yma yn Harlech o feddwl am y bywyd caled a gafodd yn ystod y gwarchae ar y castell,” meddai Andrea Bowen.

“Wedi cwymp y castell yn 1409 mae’n debyg iddi hi a’i merched fyw mewn caethiwed yn Nhŵr Llundain. Roedd ei gŵr eisoes wedi’i ladd yn ystod y gwarchae a bu Catrin farw yn Llundain yn 1413 – welodd hi ddim o Gymru eto.

“Mae mor bwysig cofio ac addysgu pobl amdani. Nid dim ond yr hanes sydd o bwys, mae’n bwysig cofio hefyd bod yna bobl go iawn yn dioddef yn ystod digwyddiadau mawr bywyd – ni eisoes 613 o flynyddoedd yn rhy hwyr ond dyw hi ddim yn rhy hwyr i weithredu. “


BBC News

Advertisements

See also  Yakou Meite: Cardiff City forward hits back at critical fan 'abuse'

Check Also

Freddie Thomas: Gloucester forward says Wales snub has given him extra motivation

Gloucester lock Freddie Thomas says the disappointment of being overlooked by Wales has given him …

Celebrity Traitors' Joe Lycett's tribute to viral TikTok nan

Anne Hughes found fame after being hoisted into the air after getting caught in shop …

‘Dim ond hollti blew fydd y Gyllideb, mae’n storm berffaith i fusnesau’

Dywedodd y cynghorydd Ceidwadol o Sir Benfro, Aled Thomas bod y llywodraeth yn “cymryd arian …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime