Ambiwlans Awyr: Safleoedd Caernarfon a’r Trallwng i gau

We are an affiliate

Newsatw.com is a participant in the Amazon Services LLC Associates Program, an affiliate advertising program designed to provide a means for sites to earn advertising fees by advertising and linking to Amazon.co.uk.“As an Amazon Associate, I earn from qualifying purchases.”

Pryder gwrthwynebwyr yw y bydd y galwadau ychwanegol yn cael eu hateb yng ngogledd-ddwyrain Cymru – ond bydd pobl yn y canolbarth a rhannau o Ben Llŷn ac Ynys Môn yn colli allan ac yn gweld cynnydd yn yr amseroedd ymateb iddyn nhw.

Fel rhan o ymgyrch hir yn y canolbarth yn erbyn unrhyw newid, cafodd baneri ac arwyddion eu gosod ar giatiau ac ymylon ffyrdd yn galw am gadw canolfan Y Trallwng ar agor.

Mae’r gwasanaeth ambiwlans awyr yn rhan o bartneriaeth – GIG Cymru sy’n cyflogi’r meddygon sy’n teithio ar yr hofrenyddion ac yn talu am yr offer meddygol maen nhw’n ei ddefnyddio.

Elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy’n talu am yr hofrenyddion, y peilotiaid a’r canolfannau awyr – mae angen £11.2m y flwyddyn ar yr elusen.

Ond ers cyhoeddi’r argymhelliad i gau’r canolfannau, mae llawer o bobl wedi postio negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud y byddan nhw’n rhoi’r gorau i gefnogi’r elusen os bydd yr hofrenyddion yn cael eu symud.

Daeth yr adolygiad i’r casgliad y byddai adleoli’r hofrenyddion i ganolfan newydd yn “datblygu a gwella mynediad, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y gwasanaeth ar draws Cymru”.

Hefyd, yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd ar ddiwedd yr adolygiad mae angen gwelliannau i’r gwasanaeth yn arbennig yn ystod y nos yn y gogledd.

Yn yr ardal honno, mae tua 530,000 o bobl yn byw sydd heb fynediad at wasanaeth gan hofrennydd o fewn awr ar ôl 20:00.

Dyma un o’r rhesymau pam nad oedd cadw’r sefyllfa bresennol yn opsiwn, yn ôl yr adroddiad.


Source link

Check Also

Bryan Adams gets therapy dog visit before gig

We are an affiliateNewsatw.com is a participant in the Amazon Services LLC Associates Program, an …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The impact of social media on mental health. Q3 : est ce que les ventilateurs brumisateurs consomment beaucoup d’eau ?.