google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Amau bod dyn, 25, wedi marw o orddos cyffuriau yn ardal y Sioe Fawr – cwest

Advertisements

Mae agoriad cwest wedi clywed bod dyn 25 oed a fu farw yn ardal y Sioe Fawr yn Llanelwedd, wedi marw o’r hyn sy’n cael ei amau o fod yn orddos (overdose) cyffuriau.

Cafodd Dewi Aeron Evans o Lanfihangel Glyn Myfyr ger Corwen ei ganfod yn farw ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf – y penwythnos cyn i’r Sioe Fawr ddechrau.

Fore Gwener clywodd Llys Crwner Pontypridd bod ymchwiliad yr heddlu yn awgrymu bod ei farwolaeth yn “gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau”.

Cafodd y dyn yn ei 20au, a gafodd ei eni yn Y Rhyl, ei adnabod yn ffurfiol gan ei dad.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal mewn ysbyty ym Merthyr Tudful a nododd y patholegydd bod achos dros dro y farwolaeth “yn gyson gyda gorddos o gyffuriau” ond bod canlyniadau tocsicoleg i ddod.

Fe wnaeth y Crwner Patricia Morgan ohirio’r cwest er mwyn i ymchwiliad yr heddlu barhau ac i brofion meddygol pellach gael eu cynnal.

Cydymdeimlodd hi â theulu a ffrindiau Mr Evans, gan ddweud y bydd cwest llawn yn cael ei gynnal ar ddyddiad yn y dyfodol.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud yn flaenorol fod person 25 oed wedi’i ganfod ym maes gwersylla Fferm Penmaenau a bod tri dyn wedi’u harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chyffuriau ac wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Evans ei fod yn “fab, brawd ac ŵyr annwyl a hoffus” a bod ei farwolaeth yn “golled enfawr i’r teulu a’r gymuned yn Uwchaled”.


BBC News

Views: 1

See also  Assisted dying law will need Welsh Parliament vote

Check Also

Rhun ap Iorwerth yn dweud bod angen ‘dysgu gwersi’ o lifogydd pentref

“Mae Cyngor Caerdydd yn arwain wrth ddarparu’r cymorth ymarferol hwnnw, ond mae gan Lywodraeth Cymru …

Mari Grug: ‘Golygu’r byd’ cael ei hethol yn llywydd gan bobl ei milltir sgwâr

Yn ystod seremoni agoriadol yr eisteddfod yn y pafiliwn brynhawn Sadwrn, cafodd Mari gyfle i …

First minister visits Gwaelod-y-Garth after quarry blast flood

“Huge amounts of water” started rushing down the hillside with reports of water 5ft (1.5m) …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
आज दिनाँक २६/११/२३ को चिकित्सा ओपीडी शिविर का आयोजन कंपनी कद्दुविता मुख्यालय के aor के अंतर्गत 3 गांवों में किया गया।. elfbar elfliq with 20 mg/ml nicotine. rrb paramedical recruitment 2024.