google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 14 2026

Alex Jones wedi cael profiadau ‘ych-a-fi’ yn y byd teledu

Mae Alex Jones yn gyflwynydd The One Show ar BBC One ers 2010, ac mae’n dweud ei bod yn “dwlu ar y job ‘ma”.

“Fi dal yn edrych ‘mlaen i fynd i’r gwaith bob dydd,” meddai.

Mae’n teimlo bod ei phrofiadau cynharaf wedi siapio ei gyrfa fel cyflwynydd.

“Mae lot ohono fo i wneud efo’r ffordd ges i fy magu gartref.

“Mae Mam a Dad yn bobl dim nonsens, traed ar y ddaear, a fi’n credu bod hynny wedi helpu.

“Mae lot o gyflwynwyr ifanc yn gofyn i fi nawr am gyngor a sut i ddechre, a fi’n dweud, yr ateb yw i ddechre ar y gwaelod a wedyn gweithio ffordd lan a deall pa mor bwysig yw pob rôl at y cynhyrchiad yn y pendraw.

“Mae’r ffordd dwi’n trin pobl, heb enwi enwau, yn wahanol i lot o bobl eraill, achos dwi’n gwybod eu bod nhw’n gweithio mor galed – mae’n jobyn sydd ddim yn talu’n dda, mae gofyn i wneud cant a mil o bethe ar unwaith, a mae’u jobyn nhw lot yn anoddach na’n jobyn i.

“Fi’n credu bo fi di cael wrth Mam a Dad y work ethic cryf ‘ma, a dwi’n benderfynol bod y plant yn cael hynny oddi wrthon ni hefyd.”


Source link

Advertisements

See also  World Cup qualifying: Pick your Wales team to face Bosnia-Herzegovina

Check Also

'Y golled tu ôl i fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg'

Katie MacGregor o Wrecsam sy’n rhannu ei phrofiad o ddysgu Cymraeg gyda’i mam, a fu …

National Hunt 2026-27: Five things to follow in Welsh racing

Bande Organisee is one of the most exciting young horses in Curtis’s stable. The five-year-old …

Cau ysgolion yn Sir Gâr: ‘Mae’r plant yn beio’u hunain’

Daw’r cyfarfod ddiwrnod ar ôl i Gyngor Sir Gâr benderfynu bwrw ymlaen â chynlluniau i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime