google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ai Dinbych yw tref fwyaf arswydus Cymru?

Yn 1594 fe grogwyd y person cyntaf yng Nghymru ar gyhuddiad o fod yn wrach sef Gwen ferch Ellis a hynny ar grocbren sgwâr Dinbych.

Mewn podlediad newydd o’r enw Gwen y Wrach a Fi ar BBC Sounds mae Holly Gierke yn sgwrsio gyda’r awdures Gwenllian Ellis am Gwen ferch Ellis wrth iddi fynd ar daith i ddarganfod mwy amdani.

Felly pwy oedd Gwen ferch Ellis? Ganed Gwen yn Llandyrnog tua 1552. Ei bywoliaeth oedd nyddu gwlân a’i werthu i farchnadoedd ond roedd ganddi hefyd allu arbennig. Gallai wella pobl ac anifeiliad efo meddyginiaeth a wnâi ei hun gyda phlanhigion a pherlysiau.

Ond ar ddechrau haf 1594 mae’n cael ei harestio ar awdurdod William Hughes, Esgob Llanelwy, a’i hel i’r carchar yng Nghastell Fflint ar gyhuddiad o fod yn wrach. Mae sawl achos llys a chyhuddiad yn ei herbyn.

Erbyn diwedd y flwyddyn mae’n cael ei chanfod yn euog o fod yn wrach a’i chrogi’n gyhoeddus ar grocbren y sgwâr ar ôl cael ei charcharu am gyfnod yn neuadd y dref, sef Llyfrgell Dinbych heddiw.


BBC News

Advertisements

See also  Eisteddfod yr Urdd 2028 i ddychwelyd i Eryri ar ôl 16 mlynedd

Check Also

Rugby League World Cup: Amberley Ruck to miss brother’s wedding to represent Wales

Even though Buck, 32, like all her team-mates are playing at a Rugby League World …

Anna Morris: World champion’s medical career still ‘on pause’ for Olympics

After years of dominance, it has felt like the rest of the world has caught …

Tributes paid to Caerphilly man who died during Cardiff Half Marathon

The family said Ross had trained for the half marathon with “commitment, enthusiasm and careful …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime