google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Agor Pont y Borth yn rhannol ddydd Gwener ar ôl cau yn ddirybudd

Bydd Pont y Borth yn ailagor yn rhannol i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr am 07:00 ddydd Gwener, mae’r llywodraeth wedi cadarnhau.

Rhwng 07:00 a 19:00 dim ond cerbydau hyd at dair tunnell fydd yn gallu croesi, ac fe fydd y bont ar gau dros nos.

Daw hyn ar ôl i’r bont gau yn ddirybudd y penwythnos diwethaf, yn dilyn cyngor brys gan arbenigwyr diogelwch.

Tra bydd y bont ar gau, bydd gwaith ffordd ac ymchwiliadau pellach yn cael eu cwblhau.

Tra bydd y bont ar agor, mae mynediad yn cael ei chyfyngu i gerbydau â phwysau hyd at dair tunnell yn unig.

Bydd mesurau rheoli traffig mewn grym – un llif traffig fydd oddi ar yr ynys yn y bore ac un llif fydd i mewn i’r ynys yn y prynhawn.

Bydd modd i gerddwyr a seiclwyr ddefnyddio’r bont dros nos, ac mae cynllun i ganiatáu mynediad i gerbydau brys mewn lle os nad ydynt yn gallu croesi Pont Britannia.


BBC News

Advertisements

See also  Dating: 'Who is going to want to go on a date with a widower?'

Check Also

WRU outlines reason for cutting one of the west Wales regions

While the decision on where the three licences would be awarded was officially announced in …

Cân Edward H yn ymddangos yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda’r gân …

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime