google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Aelod o’r Llynges fu farw ym Môr Udd yn dod o Gymru

Ychwanegodd ei deulu: “Rydyn ni i gyd mor falch o’r dyn talentog, angerddol, cryf a theyrngar oedd o.

“Fe fydd yn ein calonnau bob amser. Ein bachgen hyfryd.

“Fydd ein bywydau ni byth yr un fath hebddo.”

Fe ymunodd Mr Leyshon ag Uned Forol Frenhinol Prifysgol Cymru, sy’n hyfforddi myfyrwyr, yn 2010 ac fe ymunodd â’r Fyddin Frenhinol yn 2014.

Roedd wedi cwblhau nifer o ymarferion dramor – yn y Caribî, yr Unol Daleithiau a Norwy.

Yn ystod y 18 mis diwethaf roedd wedi bod yn gwasanaethu Sgwadron Awyr Forol 846 a dywed y Llynges ei fod yn un o’r capteiniaid a’r hyfforddwyr mwyaf galluog.

“Fe fydd yn cael ei golli’n fawr,” meddai llefarydd.

Dyw’r Weinyddiaeth Amddiffyn ddim wedi manylu ar ble yng Nghymru y daw Rhodri Leyshon.


Source link

Advertisements

See also  Quentin Tarantino spotted in Cardiff hotel

Check Also

Swansea City: John Toshack watches on as Vitor Matos’ table-toppers eye own history

Swansea’s next two fixtures – against last season’s play-off semi-finalists Millwall and promotion favourites West …

Man dies at scene of motorbike and car crash in Swansea

A man has died following a crash between a motorbike and a car in Swansea. …

Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn y de

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn Abertawe. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime