google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

Abertawe yn penodi Vitor Matos yn brif hyfforddwr

Advertisements

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi penodi Vitor Matos yn brif hyfforddwr newydd.

Dyw Matos, 37, ond wedi bod yn brif hyfforddwr ers mis Mehefin pan ymunodd â Maritimo yn ail haen Portiwgal.

Cyn hynny roedd yn gweithio i Lerpwl am bum mlynedd fel rhan o dîm hyfforddi Jurgen Klopp a threuliodd gyfnod byr fel is-reolwr i Pep Lijnders yn Red Bull Salzburg hefyd.

Fe gadarnhaodd Abertawe brynhawn Llun fod Matos wedi arwyddo cytundeb hyd at haf 2029.

Mae’r BBC ar ddeall bod yr Elyrch wedi ceisio penodi Kim Hellberg yn rheolwr yn dilyn ymadawiad Alan Sheehan, ond fod Hellberg wedi dewis ymuno â Middlesbrough.

Roedd Matosm, sy’n dod o Bortiwgal, yn bresennol yn Ashton Gate ddydd Sadwrn i wylio colled Abertawe o 3-0 yn erbyn Bryste.

Mae cyn-seren yr Elyrch, Leon Britton wedi ymuno a’r tîm hyfforddi dros dro tra bod Joe Allen hefyd yn helpu gyda’r pontio o un rheolwr i’r llall.

Bydd ei gêm gyntaf fel prif hyfforddwr gartref yn erbyn Derby County nos Fawrth.


BBC News

See also  Man found guilty of Kieran Quilligan murder

Check Also

Dyfodol darlledu Cymraeg ‘mewn perygl’ ac ‘mae’n rhaid newid ffi’r drwydded’

Dywedodd Pennaeth Materion Corfforaethol BBC Cymru Wales, Rhys Evans fod “BBC Cymru Wales yma i …

BBC Cymru Wales faces managed decline without more cash, MPs told

A senior BBC Cymru Wales executive has warned MPs the broadcaster does not have the …

Pontypridd home infested with thousands of cockroaches

Davies said the number of cockroach infestations he was dealing with had increased dramatically. “Five …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime