google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

A55: Rhyddhau dyn a gafodd ei arestio wedi gwrthdrawiad difrifol

Mae dyn a gafodd ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr A55 yn Sir Conwy wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Bu farw dynes yn ei 40au yn y gwrthdrawiad rhwng car a lori ar 29 Ionawr, ac fe gafodd tri pherson eu cludo i’r ysbyty.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod dyn 57 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus ac achosi niwed corfforol difrifol trwy yrru’n beryglus.

Mewn diweddariad ddydd Llun, dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Ddydd Gwener cafodd y ddynes a fu farw ei henwi’n lleol fel Jennifer Anne Brown o ardal Niwbwrch ar Ynys Môn.

Dywedodd yr heddlu ei bod hi’n teithio yn y car ac wedi cael ei chyhoeddi’n farw yn y fan a’r lle.

Cafodd y tri pherson arall oedd yn teithio yn y car eu cludo i’r ysbyty.


BBC News

Advertisements

See also  County Championship: Luis Reece and Brooke Guest earn Derbyshire draw at Glamorgan

Check Also

Llywodraeth yn wynebu rownd gwariant anoddaf ers cyn y pandemig – Gweinidog Cyllid

Mae’r Gweinidog Cyllid Elin Jones wedi rhybuddio y bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu ei rownd …

Dyn 43 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili

Mae dyn 43 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili nos Sadwrn, yn …

Lluniau: Llanuwchllyn v Y Bala

Roedd ‘na gyffro ym Mhenllyn penwythnos yma gyda Chlwb Pêl-droed Llanuwchllyn yn croesawu’r Bala i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime