google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

A fydd Cymru’n cyrraedd Cwpan y Byd 2026?

Beth felly am farn y cefnogwyr? Pa mor hyderus ydy rhai o aelodau’r Wal Goch y bydd Cymru yn cyrraedd y rowndiau terfynol?

“Gobeithio ein bod ni’n gallu cymryd momentwm o’r gêm ddiwethaf yn ennill o 7-1 yn erbyn Gogledd Macedonia,” meddai Gwenllian Evans o Gaerdydd.

“Mae’n bwysig cofio mi oedden ni heb Kieffer Moore adeg hynny, felly mae’n gyfle eto i chwaraewyr eraill gyfrannu gyda goliau.

“Ni’n gwybod sut mae Bellamy mo’yn chwarae. Mae e ishe bod yn ymosodol gyda lot o gyflymder yn y tîm. Mae digon o dalent gyda ni a digon o chwaraewyr cyffrous i gael canlyniadau da.”

Er fod Kevin Williams o Gaernarfon hefyd yn ffyddiog, tydi o ddim yn cymryd dim byd yn ganiataol.

“Dwi’n ofnadwy o nerfus am y gêm yn erbyn Bosnia, ond eto’n ddistaw bach dwi’n hyderus. Does bosibl fod y canlyniad yn erbyn Gogledd Macedonia wedi codi’r hyder o fewn y garfan,” meddai.

“Ond mae pêl-droed y dyddiau hyn wedi ein dysgu ni i beidio cymryd dim byd yn ganiataol. Mae’n bwysig cofio mai gemau one-off ydi’r rhain, ac mae’r pedwar tîm sy’n yr un llwybr yn ddigon da i fynd i Gwpan y Byd.”


BBC News

Advertisements

See also  Rhondda: Buses filmed mounting kerbs and driving on pavement

Check Also

Ministers have role to play in WRU regions shake-up, Reform MS Llyr Powell says

The Welsh government has a role to play in holding Welsh Rugby Union (WRU) to …

Cardiff Devils beat Belfast Giants for fourth successive win

Cardiff Devils strengthened their grip on top spot in the Elite League with a 5-2 …

Dolly Parton’s niece wants to learn Welsh after singing with Bronwen Lewis

With Star having started learning Welsh on Duolingo, she said that some of her favourite …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime