google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Buddsoddiad £150m yn creu 480 o swyddi newydd yn Airbus Brychdyn

“Ar draws y byd heddiw mae awyren Teulu A320 yn codi neu’n glanio bob dwy eiliad, gydag adenydd wedi’u dylunio a’u hadeiladu yn y DU.

“Mae buddsoddi yn ein capasiti yn cryfhau ein ôl troed diwydiannol, yn creu swyddi gwerth uchel sy’n cefnogi’r sector awyrofod ehangach yn y DU ac yn sicrhau ein bod yn aros yn gystadleuol yn y blynyddoedd sydd i ddod,” ychwanegodd.

Croesawu’r buddsoddiad a wnaeth undeb Unite, gyda’r swyddog Rhys McCarthy yn dweud bod ffydd “anferth” yn cael ei dangos “yn sgiliau, ymroddiad ac arbenigedd o safon fyd-eang ein haelodau yng ngogledd Cymru”.

Dywedodd Daz Reynolds, cynrychiolydd Unite ym Mrychdyn, fod y “safle’n sicrhau dyfodol hirdymor y ffatri”.

Ychwanegodd Mr Reynolds fod y datblygiad yn cryfhau sefyllfa’r DU yn y maes ac yn “darparu cyfleoedd hanfodol ar gyfer cyflogaeth sgil uchel a phrentisiaethau i gymunedau lleol”.

“Mae’n dystiolaeth o’r hyn sy’n gallu cael ei gyflawni pan fydd y rheolwyr yn buddsoddi’n uniongyrchol yng ngallu eu gweithlu ym Mrychdyn.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Conwy county: Unattended campfire leads to mountainside blaze

Check Also

Pum munud gyda'r chwedleuwr Fiona Collins

Cyfle i ddod i adnabod y chwedleuwr proffesiynol, Fiona Collins ychydig yn well. BBC News …

Y trenau newydd gwerth dros £200m sydd prin wedi eu defnyddio am dair blynedd

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod TrC wedi “trawsnewid” llinellau rheilffyrdd y Cymoedd drwy …

Laser hair removal firm convicted for operating unlawfully

A beauty salon has become the first in Wales to be prosecuted for providing laser …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime