google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 15 2026

Teithiau Dewi Tudur sy’n dylanwadu ar ei waith celf

Advertisements

Symudodd Dewi a’i wraig Linda i Donnini, Toscana yn yr Eidal yn 2011 a hynny yn dilyn gwyliau yn yr ardal a newidiodd yn sydyn i fywyd newydd.

Mae’r ffordd mae’n disgrifio byw ar fryniau Regello yn hudolus. Gall setlo mewn pentref newydd fod yn heriol, yn enwedig pan eich bod prin yn siarad yr iaith.

Ond fel mewn unrhyw dref neu bentref, mae straeon yn cario o berson i berson, ac ambell unigolyn yn fwy dylanwadol nag eraill.

Ar ôl digwydd taro ar ambell i unigolion yn y dref un diwrnod a chyflwyno ei hun, roedd y gair ar led fod Dewi a’i wraig wedi symud i’r pentref a buan iawn y cafon nhw eu derbyn fel aelodau o’r gymdeithas yno.

“Dyma ni’n glanio yn Villa Pittiana yma yn Toscana ar ein gwyliau.

“Ar ôl cyrraedd, nes i ymdrech, pob dydd, o’n i’n cerdded lawr i’r pentre a dyna sut nes i ddod i nabod pawb a dysgu’r iaith.

“Nes i gyfarfod dau foi Remo Bacci a Corio Lenno, ac o fewn dim ro’n i wedi cael sêl bendith yr holl bentref.” meddai.

“O ddydd i ddydd ro’n i’n dechrau siarad efo pobl. Bigais i ddarn o sbwriel un diwrnod a dyma ryw lais tu ôl i mi’n dweud nad fy lle i oedd gwneud hynny.

“Ro’n i wedi arfer gwneud yn rhinwedd fy swydd fel athro am flynyddoedd, yn pigo sbwriel pobl eraill i fyny.

“Pwy oedd o ond rheolwr y villa a dyma fo ymhen ychydig yn fy nghyflwyno i berchennog y villa. A f’yntau wedyn yn cynnig swydd i mi fel arlunydd preswyl.

“Roedd ein tŷ ni 1,000 metr uwch ben Firenze ac fe gafodd o’i adeiladu yn 1586. Mynachod oedd yn arfer byw yno a hwythau yn hunan gynhaliol ar geirios, afalau ac olewydd. Yn aml iawn roedden ni’n clywed y bleiddiaid yn udo yn y goedwig – sŵn hudolus. Iasoer ond hudolus.”

Fe wnaeth y profiad yma ysbrydoli darn o waith Dewi ar fleiddiaid mewn tirwedd caled o eira a rhew.

“Fyswn i byth yn mynd yn ôl yna. Mae’r teimlad a’r profiadau wedi bod mor hyfryd, dwi eisiau ei gadw o fel ‘na.” meddai.


BBC News

See also  Prawf iechyd yn 'loteri cod post' i bobl ag anableddau dysgu

Check Also

Gyrrwr a laddodd athletwraig Team GB i gael ei alltudio i Rwmania

Symudodd Barbu i Brydain yn 2002 gan weithio fel cogydd yn nhafarn yr Old Pandy …

Heddwas wnaeth ddyrnu dyn wedi defnyddio ‘grym afresymol’ – gwrandawiad

Ym mis Mai 2023, cafodd yr heddlu eu galw i Borthmadog yn dilyn adroddiad am …

Brendon McCullum wants Kevin Pietersen to challenge methods in coaching role

McCullum said Pietersen was “shocked” when he first called him about “helping us challenge for …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime