google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau yng Nghymru

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ar gyfer Cymru gyfan ddydd Sul.

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 11:00 a 23:59 ddydd Sul.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai’r tywydd garw effeithio ar deithio, seilwaith a gweithgareddau awyr agored.

Gallai’r glaw trwm hefyd arwain at lifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, yn ogystal ag amodau gyrru gwaeth a gwasanaethau trên yn cael eu gohirio.

Mae rhwng 10-15mm o law yn bosib mewn llai nag awr mewn rhai mannau, gyda 30-40mm yn bosib dros sawl awr, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Gallai cesair, mellt cyson a hyrddiau gwynt o 35-45mya fod yn beryglon ychwanegol.

Mae disgwyl i’r stormydd mellt a tharanau gryfhau a dod yn fwy ynysig yn ddiweddarach gyda’r nos.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  'Going on Gladiators together was unreal'

Check Also

Police renew appeal into death of biker, 19, in Great Orme crash

The incident happened about one mile (1.6km) from the Toll House towards the direction of …

Uganda tree-planting scheme loses Welsh government funding

The leader of the Welsh Conservatives in the Senedd Darren Millar said the decision was …

Llywodraeth Cymru ddim am barhau i gefnogi cynllun plannu coed Uganda

Mae’r cynllun plannu coed yn Uganda wedi cael ei feirniadu ers tro gan wleidyddion Reform …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime