google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio dau ar amheuaeth o geisio llofruddio dyn yn Sir Gâr

Mae dau berson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi i ddyn ddioddef anafiadau difrifol yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael gwybod gan staff ysbyty am 01:20 fore Mercher fod dyn wedi mynd yno gydag anafiadau difrifol.

Aeth swyddogion i eiddo yn ardal Brynmeurig, lle maen nhw’n credu y bu ymosodiad ar y dyn yn gynharach.

Mae dyn 35 oed a dynes 30 oed o ardal Caerfyrddin wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.

Cafodd dynes 49 oed a dyn 40 oed hefyd eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi’r digwyddiad, cyn cael eu rhyddhau heb unrhyw weithredu pellach yn eu herbyn.

Mae’r dyn a gafodd ei anafu bellach wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty ac mae ymchwiliad y llu yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 2

See also  Cymru yn colli o 2-4 yn erbyn Gwlad Belg

Check Also

Hosepipe ban set for parts of Wales and Conman swindled £20k from pensioner

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Conference League: Connah’s Quay Nomads bow out despite fightback at Ballakani

Connah’s Quay Nomads bowed out of the Uefa Conference League despite a stirring second-half fightback …

India vs England: Joe Root hits 99 not out as hosts level one-day international series

Second ODI, Cardiff India 233 (44 overs): Iyer 66 (71); Archer 3-47 England 235-6 (44.1 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime