google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwahoddiad i gydweithio ‘yn parhau’, er i Lafur wrthod cyllideb atodol

Mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales Breakfast cyn y cadarnhad mai ef yw arweinydd parhaol newydd Llafur Cymru, dywedodd Ken Skates: “Roedden ni’n glir iawn yn ystod y broses o gyflwyno cyllideb atadol y dylai canran sylweddol o’r arian yna fynd at anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.

“Ar ddechrau’r broses, yn ystod trafodaethau, doedd Plaid ddim yn credu bod angen trafodaethau – mae’r gyllideb ond yn cael ei phasio.

“Roedden ni’n glir iawn ein bod eisiau i arian fynd at ADY ac roedden nhw’n cynnig dim byd.

“Nawr, dros gyfnod o ryw wythnos, mae nhw wedi codi’r cynnig fymryn ond doedd o dal ddim yn ddigon, ac nid ni fel plaid sy’n dweud hynny.

“Mae pob cyngor yng Nghymru yn ei ddweud o, yr undebau llafur sydd nawr mewn anghydfod gyda Llywodraeth Cymru, athrawon, rhieni – yn wir, pan yn wrthblaid, roedd ASau Plaid yn galw am fuddsoddi arian mawr mewn ADY.

“Maen nhw wedi cael yr arian yna [yn sgil costau hanesyddol Lloegr], maen nhw wedi penderfynu peidio â’i rhoi.

“Fy nghwestiwn i Plaid nawr yw beth maen nhw’n bwriadu gwneud gyda chwarter biliwn o bunnau sydd heb ei ddyrannu?”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 0

See also  Glastonbury backstage photographer ready for Raye and Rodrigo

Check Also

Food waste meet the composters reclaiming our rubbish

Criw Compostio picks up waste, as well as wood shavings from a carpentry business and …

Nations Championship: Wales face more questions than answers after Durban defeat against South Africa

The baiting started early in Durban yesterday hours before kick-off. A Welsh runner turned up …

Wrexham transfer news: Boss Phil Parkinson confident of summer deals

Wrexham will be vying to push for a play-off spot in the second tier next …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime