google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwagio tai wrth i griwiau ddelio â thân sied mawr yn Nhreharris

Advertisements

Mae nifer o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi ym Merthyr Tudful wrth i’r gwasanaethau brys ymateb i dân sied.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod “yn delio â digwyddiad mawr” yn Heol Fictoria, Treharris.

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae sawl eiddo wedi cael eu gwagio a bod trigolion wedi cael eu cludo i neuadd gymunedol leol.

Mae dwy stryd arall ar gau – Heol Mary a Heol Thomas – ac mae yna gyngor i drigolion lleol gadw drysau a ffenestri ar gau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 15:20 brynhawn Sul yn dilyn adroddiadau o dân yng ngardd eiddo yn Heol Fictoria.

Mae criwiau tân wedi eu hanfon yno o Aberbargoed, Pontypridd, Merthyr Tudful, Caerffili a Maendy, ynghyd â thri thanc dŵr.

Ychwanegodd y gwasanaeth tân bod “plu mawr o fwg i’w gweld yn yr ardal” ac y dylai pobl osgoi’r ardal “i adael i’r gwasanaethau brys weithio’n ddiogel a chadw lonydd yn glir”.


BBC News

Views: 0

See also  Y ddwy ffrind o Ddyffryn Peris sy'n annog pobl ifanc i ddawnsio

Check Also

Dolphins swim alongside boat off Port Eynon

Watch as a big pod of dolphins is caught on camera swimming alongside a boat …

‘Sgen i ddim mynediad at fy hoff leoedd ers bod mewn cadair olwyn’

Cafodd Bethany, 26, ei geni gydag amhariad ar ei golwg, oedd yn ei hatal rhag …

Dwy gadair ‘gelfydd’ â chysylltiad arbennig i’w dangos yn Yr Ysgwrn

Bydd dwy gadair sydd â chysylltiad arbennig yn cael eu harddangos yn Yr Ysgwrn – …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
"panduan lengkap harga paving block langsung pabrik 2026 : hemat biaya dengan kualitas standar industri » thetaindomarga sm".