google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 9 2026

Michael Ball: ‘Y profiad gorau dwi erioed wedi ei gael’

Advertisements

Bydd y canwr, sy’ wedi serennu mewn sawl sioe gerdd gan gynnwys Les Misérables dros y blynyddoedd, yn canu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni.

Meddai Michael am gyfarfod cyntaf y ddau: “Daeth Amy ar fy sioe ar Radio 2 ac o’n i’n meddwl bod hi’n wych.

“Ar ddiwedd y cyfweliad gofynodd hi os ydw i’n ysgrifennu caneuon.

“Dywedais i, ‘Dwi’n caru ysgrifennu caneuon ac mi fyddwn i’n caru ysgrifennu gyda ti.’ Ac mi rhoddodd ei rhif i fi a dweud, ‘Awn ni amdani’.

“Mae hi erbyn hyn yn rhan mawr o fywyd fy nheulu a dwi’n rhan o fywyd ei theulu hi. Dwi’n edmygu ei chreadigrwydd a’i charedigrwydd a’i chefnogaeth.”

Mae gwreiddiau Cymreig gan y ddau ac yn ôl Michael: “Mae hiraeth yn rhedeg trwyddaf i.

“Dwi’n caru fy nhreftadaeth Cymreig, mae’n dylanwadu cymaint arna’i – y gerddoriaeth sy’n llifo allan o’r wlad. Ac mae Amy yn teimlo yr un peth.

“Mae hi’n dod o Fryste felly yn swyddogol ni’n Wenglish, ond os oes rhyfel neu rygbi, rydyn ni’n Gymreig.”

Mae gan Michael feddwl uchel o gynulleidfaoedd pan mae’n perfformio yng Nghymru, meddai: “Mae’r cynulleidfaoedd yn barod am ddawns ond maen nhw hefyd yn gwrando.

“Os dwi’n perfformio Empty chairs at empty tables o Les Misérables mae ‘na dawelwch achos maen nhw’n gwrando arno.

“Maen nhw’n gwerthfawrogi cerddoriaeth.”


BBC News

See also  Agor ysgol feddygol Bangor yn 'gam enfawr ymlaen'

Check Also

Evan Press: Ex-Barry Town footballer banned for anti-doping violation

Former Barry Town United midfielder Evan Press has been handed a three-year ban for an …

Ioan Hepburn follows in Sir Jason Kenny’s footsteps with two golds

Welsh track cyclist Ioan Hepburn is aiming high in his next four-year cycle after ending …

Ymchwiliad i farwolaeth dynes yn Aberteifi yn dod i ben heb gyhuddiadau

Mae ymchwiliad i farwolaeth dynes 21 oed yn Aberteifi wedi dod i ben heb i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime