google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ffermwyr Sir Gâr wrth eu boddau yn hel atgofion am hen stondinau llaeth

Advertisements

Mae Anthony yn credu bod y cymdeithasu oedd yn aml yn deillio o gwrdd ar bwys y stondinau llaeth yn help o ran iechyd meddwl pobl cefn gwlad.

“Achos o’n nhw’n lle ble o’dd ffermwyr yn gallu cwrdd a siarad â’i gilydd – siarad i bois loris, gweud clecs, beth o’dd y prisie’n y mart, a phwy o’dd wedi rhedeg bant â phwy – ch’mo fel o’dd e!?

“Ond nawr mae bron fel contactless transfer of milk – so mae’n bwysig cofio beth o’dd rhein.

“So nhw’n bert iawn,” meddai cyn pwysleisio “they’re of no architectural significance, granted but they’re of great social significance“.

Mae Anthony erbyn hyn wedi cofnodi lleoliad a lluniau dros 650 o stondinau llaeth yn Sir Gâr, a does dim awydd stopio arno.

Yn y 1970au dywedodd bod tua 1,700 o ffermydd llaeth ar draws y sir, ac felly mae’n amcangyfrif bod tua 1,500 o stondinau llaeth yno ar un adeg.

Mae nifer wedi dymchwel dros y blynyddoedd am sawl rheswm, ond mae’n gobeithio bod mwy i’w canfod.


BBC News

Views: 2

See also  Rhyl man died after 'unnecessarily long' surgery, inquest hears

Check Also

Tom Allen: Scarlets sign New Zealand U20 lock from Hurricanes

Allen is the seventh summer signing for Scarlets who have also recruited New Zealand back-rower …

Ansicrwydd am welyau yn y rhan fwyaf o ysbytai cymunedol Powys

Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fod y cynigion yn dal yn y camau cynnar ac …

Galw am fwy o reoleiddio pecynnau tyllu clustiau cartref

Mae Rhian Mansfield, 42, yn ymarferydd tyllu corff proffesiynol ac yn aelod o’r UKAPP. Mae’r …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime