google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html smokeless fireworks,what are f4 fireworks,fireless fireworks,what are f1 fireworks,what are f2 fireworks www.yaoanjituan.com what are f3 fireworks,low noise fireworks,f4 fireworks,cold sparkler wholesale,fireworks for weddings wholesale

Oedi cyrsiau prifysgol parafeddygol Cymru eleni yn sgil diffyg swyddi

Dywedodd Richard Lee o Goleg Brenhinol y Parafeddygon fod y newyddion yn “bryder”, ond y bydd y broblem “yn pasio”.

Dywedodd nad yw’n “broblem unigryw i Gymru, mae’n broblem ledled y Deyrnas Unedig”, ond ei bod yn waeth yng Nghymru oherwydd mai dim ond un ymddiriedolaeth ambiwlans sydd yma.

“Felly, mae gorfod mynd ymhellach i ddod o hyd i waith yn fwy o broblem yng Nghymru na mewn rhannau eraill o’r DU, lle mae sawl ymddiriedolaeth ambiwlans yn ffinio hefo’i gilydd a phobl yn gallu symud o gwmpas.”

Er bod swyddi parafeddygol ar gael ledled y DU, meddai, dydy llawer ddim ar gael i barafeddygon sydd newydd gymhwyso.

“Wrth i chi gymhwyso, rydych chi’n destun cyfnod dwy flynedd sy’n cael ei alw’n barafeddyg newydd gymhwyso – NQP.

“Mae gweithio mewn ambiwlans yn rôl ddelfrydol oherwydd gallwch chi gael goruchwyliaeth, mae cefnogaeth dros y ffôn, mae cefnogaeth glinigol gan barafeddygon mwy profiadol.

“Ond mae rhai o’r rolau eraill sydd ar gael i barafeddygon rŵan, fel gweithio mewn adrannau brys, gweithio mewn meddygfeydd teulu, neu mewn ystafelloedd cadw’r heddlu i ofalu am garcharorion, yn gofyn eich bod wedi pasio’r cyfnod dwy flynedd hwnnw.”


BBC News

Views: 1

See also  Blue-green algae warning at Eryri's Llyn Tegid

Check Also

Callum Doyle: Defender’s turnaround from ‘bad moment’ to team of the season

Defender Callum Doyle has been a key member of the Wrexham team bidding for the …

Hundreds of farmers challenge pylons firm in landmark legal case

More than 500 farmers take action against a firm planning new electricity pylon routes across …

Dyn 82 oed wedi marw ar ôl tân mewn tŷ ar Ynys Môn

Mae’r gwasanaethau brys yn ymchwilio i ddigwyddiad ar ôl i ddyn 82 oed farw yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime